Ar hyn o bryd, defnyddir eConsult ar draws gofal sylfaenol i frysbennu ceisiadau sy’n dod i mewn o gleifion at feddygon teulu
Nod y prosiect hwn yw gwerthuso algorithm AI eHub fydd yn gwella ac yn awtomeiddio brysbennu cleifion ym mhib practis meddyg teulu
Bydd y prosiect hwn yn golygu gwerthusiad 18 mis dulliau cymysg sy’n cymharu eConsult gydag eHub ar draws 23 o safleoedd meddygon teulu yn Lloegr, Cymru a’r Alban
Bydd y gwerthuso yn defnyddio cymysgedd o agweddau ethnograffig strwythuredig ac anstrwythuredig megis arsylwi ar gyfranogwyr, sgyrsiau anffurfiol a chyfweliadau
Adolygiad Cymreig o eConsult
Cynhelir y prosiect hwn i werthuso gofal sylfaenol am y defnydd a wneir o eConsult mewn practis meddygon teulu ar draws de-ddwyrain Cymru
Bydd hyn yn nodi ffactorau llwyddiant a gwersi i’w dysgu o ddefnyddio eConsult
Hunan-reoli PSA
Nod y prosiect hwn yw gwerthuso Hunan-Reoli PSA Gyda Chefnogaeth fydd yn rhoi llwyfan o gefnogaeth i gleifion sy’n byw gyda Chanser y Brostad
Bydd y prosiect yn rhoi’r gallu technegol i’r cymhwysiad gael ei ddefnyddio gan bob bwrdd iechyd ac ymddiriedolaethau iechyd yng Nghymru
Cynnwys Digidol
Amcan y prosiect hwn yw cychwyn cynllun peilot Cydsyniad Digidol i gleifion Llwybr Canser y Fron sydd i fod i gael llawdriniaeth
Y nod yw cynorthwyo gwneud penderfyniadau wedi eu cefnogi a chyda sail o wybodaeth, a darparu gwybodaeth safonedig o well ansawdd