Prosiectau Ymgynghoriadau Fideo
Gwerthuso Cam 2a, b ac c
- Mae’r cam hwn o’n gwerthusiad o Wasanaeth Ymgynghoriadau Fideo GIG Cymru yn cynnwys gwerthuso dulliau cymysg o arolygon trawsadrannol, cyfweliadau, a grwpiau ffocws dilynol.
Dadansoddiad Cymharol Cymdeithasol-Demograffig
- Mae’r cam hwn o werthusiad Gwasanaeth Ymgynghoriadau Fideo GIG Cymru yn cymryd data Cam 2a TEC ac yn ymgorffori blaenoriaethau clinigol a data astudiaethau poblogaeth.
- Rydym yn edrych i mewn i’r hyn sy’n gweithio’n dda ac ymhle, beth nad yw’n gweithio, ac yn holi ‘pam’.
Dadansoddiad Economeg Iechyd
- Gan ddefnyddio data Cam 2a, cynhaliwyd dadansoddiad economeg iechyd. Gwnaethom gyfuno data am hyd aros mewn ystafelloedd aros Attend Anywhere a data arall i ddeall manteision iechyd ac economaidd YF.
Treial Dan Reolaeth ar Hap Anhwylder Straen Wedi Trawma (PTSD) a Therapi Ailbrosesu Dadsensiteiddio Symudiad Llygaid (EMDR)
- Mae TDRH cenedlaethol ar y gweill mewn PTSD i gymharu YF gydag Wyneb yn Wyneb mewn Therapi EMDR
- Cadarnhawyd y caniatâd moesegol a byddwn yn dechrau casglu data yn haf 2022.
Ymchwil PrEP gydag iechyd rhywiol yng Nghaerdydd a’r Fro
- Mae Proffylacsis Cyn Gweithredu (PrEP) yn gyffur i unigolion sydd â risg o HIV
- Cyn COVID, byddai cleifion yn gorfod derbyn PrEP yn bersonol, ond yn ystod COVID gallai staff iechyd rhywiol ei ragnodi dros y ffôn
- Mae’r prosiect hwn yn cynnwys cymhariaeth am sut yr oedd unigolion yn derbyn presgripsiynau cyn ac ar ôl COVID ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro
Dadansoddiad Llwybr EAT
- Mae’r prosiect hwn yn cynnwys Dadansoddiad Llwybr Technoleg Therapi Iaith a Lleferydd (Thil) cyn ac yn ystod COVID.
- Dangosodd canlyniadau fod y llwybr a fabwysiadwyd wedi i’r pandemig gychwyn, oedd yn golygu rhoi cyfarpar i’r plentyn a’i deulu gartref yn rhoi mwy o newidiadau cadarnhaol o ran defnyddio’r cyfarpar na’r llwybr a ddefnyddiwyd cyn y pandemig.
Holwch ni am Ddementia
- Yr oedd y gwerthuso hwn yn ymchwilio i’r gwasanaeth peilot cenedlaethol ‘Holwch am Ddementia’ a ddefnyddiwyd gan ymarferwyr, safleoedd peilot, teuluoedd a gofalwyr taledig
- Defnyddiwyd dulliau ansoddol, sef arolygon a chyfweliadau, i gasglu data a chasglwyd argymhellion ynghyd i’w cyflwyno yn y dyfodol
Astudiaeth Cyflogi Rhithiol
- Cynhelir y gwerthuso hwn gan TEC Cymru ac Ymddiriedolaeth Solent i ymchwilio i ddefnydd a gwerth cyflogi rhithiol, a manteision a heriau hyn
- Bydd y gwerthuso yn dal adborth defnyddwyr am faint ddefnyddiodd y prosiect cyflogi rhithiol, eu boddhad ag ef, ei addasrwydd a’r lles a ddeilliodd ohono