Pennaeth Ymchwil
Helo, Gemma yw f’enw i, a fi yw Arweinydd Ymchwil a Gwerthuso TEC Cymru. Rwy’n rheoli tîm sy’n tyfu o gynorthwywyr ymchwil, dadansoddwyr data, cymrodorion clinigol a digidol, a myfyrwyr PhD, Meistr a meddygol, a myfyrwyr ar leoliad ar draws ystod eang o brosiectau ymchwil, gwerthuso a gwella ansawdd yn genedlaethol. Mae gennyf ddiddordeb byw yn y rhyngwyneb rhwng iechyd, gofal cymdeithasol, addysg ac arloesedd digidol. Rwyf hefyd ar hyn o bryd yn gwneud PhD mewn Cymdeithaseg ym Mhrifysgol Bryste lle rwyf yn ceisio gwella dyluniad a lledaeniad canllawiau Llywodraeth y DU ar Iechyd a Maeth mewn ysgolion ac yn y gymuned.
Arweinydd Clinigol
Mae’r Athro Alka Ahuja MBE, Seiciatrydd Plant a Phobl Ifanc Ymgynghorol gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan. Alka yw Arweinydd Clinigol Cenedlaethol Rhaglen Gofal wedi’i Gyfoethogi gan Dechnoleg Llywodraeth Cymru. Mae hefyd yn is-gadeirydd Cyfadran Plant a Phobl Ifanc Coleg Brenhinol y Seiciatryddion ac yn arweinydd Addysg Gyhoeddus Coleg Brenhinol y Seiciatryddion yng Nghymru. Mae hefyd yn Athro Gwadd gyda Phrifysgol De Cymru ac yn Athro Anrhydeddus ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae ganddi arbenigedd mewn methodoleg ymchwil ansoddol ac mae ei meysydd o ddiddordeb arbennig yn cynnwys anhwylderau niwroddatblygiadol gan gynnwys awtistiaeth ac Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd, cyfranogiad defnyddwyr a gofalwyr mewn gwasanaethau gofal iechyd a defnyddio technoleg ddigidol ym maes gofal iechyd.
Twitter: @AlkaSashin
Arweinydd Mabwysiadu Clinigol
Helo yw fy enw i yw Simon ac rwy'n Arweinydd Cenedlaethol TEC Cymru ar gyfer Mabwysiadu Clinigol a Newid Busnes. Rwy'n gyn-Nyrs Resbiradol ac wedi gweithio ers blynyddoedd lawer ers hynny ym maes trawsnewid ymarfer clinigol er budd cleifion a chlinigwyr. Fy ethos personol i yw y dylai newid fod yn Ddiogel, yn Effeithiol ac yn seiliedig ar Dystiolaeth. Rwy'n credu'n angerddol yn y gwaith rydym yn ei wneud yn TEC Cymru i ddod â buddion yr oes ddigidol i'n hymarfer. Mae pob maes ymarfer yn dod â'i uchafbwyntiau a’i heriau ei hun, ond ein nod yw rhoi cymorth drwy bob cam newid a mabwysiadu, er mwyn sicrhau ei fod yn gweithio i chi a'ch cleifion ar lefel adrannol.
Ymchwilwyr
Eleanor ydw i a fi yw cynorthwyydd ymchwil mwyaf newydd TEC Cymru’ - dechreuais weithio ddiwedd Ionawr 2022! Rwy’n gweithio mewn Ymgynghoriadau Fideo a Theleiechyd. Gwnes BSc mewn Seicoleg ac MSc mewn Seicoleg Glinigol ac Iechyd Meddwl ym Mhrifysgol Abertawe, a gwnaeth y ddau gwrs fy nghyflwyno i fyd ymchwil a’r affaith cadarnhaol y gall gael ar lefel y gofal mae pobl yn dderbyn. Ymysg fy meysydd diddordeb eraill mae anhwylderau bwyta ac iechyd meddwl, yn enwedig i rai yn eu harddegau, ac yr wyf yn gobeithio y bydd unrhyw waith y gwna’i ei gwblhau i TEC Cymru yn cyfrannu at ddefnydd llwyddiannus o dechnolegau i bob grŵp o gleifion!
Helo, Alice yw f’enw i. Yn ddiweddar, enillais BSc mewn Seicoleg ym Mhrifysgol Abertawe, a dechreuais weithio yma yn TEC Cymru ym Medi 2022. Yn ystod fy ngradd, datblygais ddealltwriaeth dda o ymddygiad dynol ac iechyd meddwl, gan ymddiddori’n arbennig mewn dulliau ac agweddau at wahanol fathau o driniaeth, o safbwynt y claf a’r gweithiwr clinigol. Rwyf yn frwd ynghylch ymchwil a dulliau seiliedig ar dystiolaeth mewn gofal iechyd, felly mae’n wych bod yn rhan o’r tîm ymchwil yma yn TEC Cymru ac yr wyf yn gobeithio cyfrannu at wneud gwahaniaeth!
Helo, Joel ydw i ac rwy'n Gynorthwy-ydd Ymchwil gyda TEC Cymru. Rwy'n angerddol am Iechyd Meddwl a'r Amgylchedd ac yn flaenorol rwyf wedi gweithio gydag elusennau iechyd meddwl amrywiol ledled De Cymru. Yn ddiweddar, rwyf wedi cwblhau BSc mewn Seicoleg ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) ac MSc mewn Seicoleg Glinigol ac Annormal ym Mhrifysgol Abertawe. Mae fy ngraddau wedi rhoi ystod eang o sgiliau i mi yr wyf yn edrych ymlaen at eu defnyddio a'u datblygu ymhellach wrth wneud gwahaniaeth gyda'r ymchwil yr wyf / y byddaf yn ei wneud.
Helo, Rob ydw i a dechreuais fel cynorthwyydd ymchwil i TEC Cymru ym mis Mai 2023. Rwy'n angerddol am iechyd meddwl ac wedi gweithio o'r blaen yn y maes. Rwyf wedi cael BSc mewn Seicoleg ym Mhrifysgol Royal Holloway ac wedi cael MSc mewn Seicoleg Fforensig gyda Chwnsela ym Mhrifysgol Caerfaddon. Trwy gydol fy ngradd rwyf wedi datblygu fy sgiliau dadansoddi data, cyfathrebu ac ysgrifennu adroddiadau. Rwy'n edrych ymlaen at y gwahanol brosiectau a meysydd ymchwil y byddaf yn gweithio arnynt gyda TEC Cymru.