Mae’r Gofrestr Prosiectau yn adnodd canolog byw cenedlaethol i unrhyw un sy’n awyddus i ddarganfod pa brosiectau TEC sydd ar y gweill neu yn digwydd yng Nghymru o fudiadau iechyd a gofal ar hyd a lled Cymru. Datblygwyd y Gofrestr i helpu i osgoi dyblygu gwaith neu ymdrechion a rhannu gwersi ar yr un pryd.

Mae’n darparu gwybodaeth allweddol a sylfaen o wybodaeth am brosiectau TEC yng Nghymru, gan roi manylion am natur y prosiect neu’r Gwasanaeth, deilliannau a gwersi a ddysgwyd.

Mae’n ceisio helpu i wneud penderfyniadau, helpu gydag ymchwil i brosiectau TEC ac o bosib arbed amser, ymdrech ac arian wrth i weithgaredd TEC ehangu. Bydd yn llwyfan i alluogi mabwysiadu TEC yn ehangach ledled Cymru.

Os hoffech gyflwyno prosiect neu wasanaeth i’w arddangos ar y wefan, llenwch yr Holiadur Cofrestr Prosiectau.

Dychwelwch ef atom trwy e-bost yn teccymru@wales.nhs.uk ynghyd â’ch gwybodaeth gyswllt.