,
-

Mae cyfres gweminar yr Adnodd Data Cenedlaethol yn parhau - rydym yn ymchwilio i ystod o'r themâu technegol sy'n sail i'r rhaglen, gan ystyried sut mae'r blociau adeiladu hyn yn creu cyfleoedd cyffrous ar gyfer arloesi a chydweithio wrth i'r Adnodd Data Cenedlaethol geisio trawsnewid Iechyd a Gofal digidol ledled Cymru.

woman at computer

Ymunwch â ni ddydd Mawrth 15 Rhagfyr 2020 wrth i ni edrych ar themâu technegol a phensaernïaeth yr Adnodd Data Cenedlaethol. Byddwn yn edrych ar bwysigrwydd rhyngweithredu, terminoleg, rheoli API, data mawr a mecanweithiau negeseuon. Byddwn hefyd yn gofyn cwestiynau pwysig ynghylch sut y gall arloesi a phartneriaethau yrru datblygiad a chyrhaeddiad parhaus y rhaglen Adnodd Data Cenedlaethol.

Bydd y sesiwn yn rhyngweithiol, gan gynnwys pleidleisio byw a sesiynau Holi ac Ateb, wrth i ni rannu ein dysgu, trafod heriau a nodi cyfleoedd trwy drafodaeth agored, atyniadol. Felly dewch â'ch cwestiynau, a pharatowch i gymryd rhan, wrth i ni yrru’r rhaglen Adnodd Data Cenedlaethol Cymru ymlaen gyda'n gilydd.

 

Agenda a Siaradwyr

Ymhlith y siaradwyr sydd wedi'u cadarnhau mae’r canlynol:

  • Rob Jones - Prif Bensaer (Adnodd Data Cenedlaethol)
  • Mark Frayne - Prif Bensaer Cynorthwyol (Adnodd Data Cenedlaethol) (Rhyngweithredu)
  • Dale Parsons - Swyddog Prosiect, SNOMED CT
  • Eugene O’Sullivan - Uwch Arbenigwr Cynnyrch API
  • Mike Greenhalgh - Uwch Arbenigwr Cynnyrch (Adnodd Data Cenedlaethol BIP Betsi Cadwaladr)

Agenda fanwl ac amseriadau i ddilyn.

 

Cofrestrwch eich lle heddiw!
Adnodd Data Cenedlaethol - sesiwn technegol
Bwciwch nawr trwy Eventbrite