,
-
Online

Ymunwch â ni ar yr 8fed Hydref (trwy Teams) i glywed sut mae gwahanol sefydliadau wedi bod yn defnyddio eu data yn wahanol o ganlyniad i bandemig Coronafeirws.

data

Dan gadeiryddiaeth Allan Wardhaugh, Prif Swyddog Gwybodaeth Glinigol yn BIP Caerdydd a'r Fro, byddwn yn clywed gan:

  • Keith Hawkins, Arbenigwr Arweiniol (Gwybodaeth) yn GGGC, ar ddatblygiad cyflym eu Hwb Data COVID.
  • Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG Gwlad yr Haf i glywed sut y gwnaethant greu, profi, defnyddio ac iteru gwasanaeth ymateb COVID o'r dechrau i'r diwedd gyda dull a arweinir gan blatfform data.
  • Rich Fry, Uwch Ddarlithydd ym Mhrifysgol Abertawe, yn trafod sut mae SAIL wedi cael ei ddefnyddio i lywio ymateb Llywodraeth Cymru i COVID-19 gan ddefnyddio data cysylltiedig. Hefyd, y datblygiad mapio cydraniad uchel gan ddefnyddio data olrhain symptomau ZOE sydd wedi llywio polisi Llywodraeth Cymru a'r Alban trwy gydol y pandemig.
  • Bydd Alisha Davies, Pennaeth Ymchwil a Datblygu Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cyflwyno ar y Labordy Data Rhwydweithiol yng Nghymru, sy'n un o bump o Labordai Data Rhwydweithiol yr Health Foundation ledled y DU. Bydd y Lab yn darparu mewnwelediadau o ddata i arweinwyr systemau iechyd cenedlaethol a lleol er mwyn gweithredu er mwyn gwella iechyd a gofal y DU.

Wedi colli'r digwyddiad? Peidiwch â phoeni, gallwch ddal i fyny yma: