Dyma dudalen hyfforddiant gweminar ar sut i ddefnyddio’r platfform Attend Anywhere ar gyfer Therapi Grŵp neu Addysg Grŵp.
Mae'r hyfforddiant gweminar yn cwmpasu’r system Attend Anywhere.
Mae'r hyfforddiant yn cynnwys 3 fideo ar gyfer hyfforddiant Clinigwyr a 4 fideo ar gyfer Hyfforddiant Gweinyddwr.
Mae angen cwblhau a chyflwyno prawf byr er mwyn llwyddo yn y cwrs hwn. Mae'r prawf i'w weld ar waelod y dudalen we hon. Bydd angen i chi ddychwelyd i'r dudalen hon ar ôl pob fideo.
Mae'r Cwrs Gweminar Grwpiau Attend Anywhere yn cwmpasu'r canlynol:
01 Cyflwyniad CHWARAE FIDEO
- Pa offer a phorwr sydd eu hangen
- Sefydlu cyfrif
- Sut i fewngofnodi
- Llywio sgrin sy'n cynnwys:
- Adnodd cymorth
- Fy Mhroffil
- Fy Rolau
- Newid fy Nghyfrinair
- Newid fy nghyfeiriad E-bost
- Allgofnodi
- Oriau Mannau Aros
- Profi Fy Offer
- Y Ddolen Man Aros a sut i rannu trwy neges destun, e-bost neu gopïo ac ychwanegu neges
- Sut i gyrchu'r Daflen ‘Wybodaeth i Alwyr’ Cymraeg a Saesneg a sut i ychwanegu testun at yr adran 'Rhagor o wybodaeth'
- Cyswllt cefnogol i staff
02 Swyddogaethau galwad fideo CHWARAE FIDEO
- Swyddogaethau Galwad fideo sy'n cynnwys:
- Sut i lansio galwad Grŵp
- Sut i dderbyn/gwadu cyfranogwyr i'r alwad Grŵp
- Sut i ddistewi cyfranogwr
- Sut i ddiffodd camera cyfranogwr
- Sut i ddistewi/dad-ddistewi fy meicroffon
- Sut i droi fy nghamera i ffwrdd/ymlaen
- Sut i ddatgysylltu cyfranogwr o’r alwad
- Sut i binio cyfranogwr ar y sgrin
- Codi llaw
- Rhannu sgrin
- Anfon sgwrs at bawb a sgwrs breifat
- Cuddio/Dangos hunan olwg
- Amlygu’r siaradwr/Diffodd amlygu siaradwr
- Newid cefndir
- Ystafelloedd Drafod
- Gosodiadau galwad fideo, Sain, Meicroffon a Chamera
- Gadael yr alwad (dim ond fi) a gorffen yr alwad (i bawb)
03 Golwg y Claf CHWARAE FIDEO
- Rhannu dolen y Man Aros gyda'r claf
- Sut mae'r ddolen a'r neges yn cael eu gweld ochr y claf trwy anfon neges destun, e-bost a Thaflen Gwybodaeth i'r Galwr
- Ochr y claf - Sgrin gosod galwad fideo a sgrin manylion Galwr
- Nodyn ‘Croeso i Gleifion’ gan gynnwys negeseuon ychwanegol
- Neges sain i’r claf sy'n cael ei chwarae tra'n aros a sut i ddiffodd/dad-ddiffodd
- Botymau Swyddogaeth y Claf:
- I ddistewi/dad-ddistewi eu meicroffon
- Camera ymlaen/wedi’i ddiffodd
- Codi llaw
- Swyddogaeth sgwrsio
- Cuddio/Dangos hunan olwg
- Amlygu’r siaradwr/Diffodd amlygu siaradwr
- Pylu cefndir/ diffodd pylu cefndir
- Gosodiadau galwad fideo, Sain, Meicroffon a Chamera
- Dod â'r alwad i ben
04 Fideo ychwanegol ar gyfer Hyfforddiant Gweinyddwr CHWARAE FIDEO
- Sut i Ffurfweddu neu Newid y Gosodiadau yn yr Man Aros sy'n cynnwys:
- Atal/Adfer mynediad
- Rheoli Defnyddwyr
- Rheoli Tagiau Adrodd
- Gwybodaeth Gyffredinol
- Gosodiadau Ymgynghori Grŵp...
- Cyswllt cefnogol i staff...
- Gwybodaeth i Alwyr...
- Logo...
- Oriau Mynediad Galwadau Fideo...
- Dolenni Mannau Aros...
- Rhannu Neges y Ddolen...
- Cyn Galwadau (Manylion Galwr)...
- Cyn Galwadau (Darllenwch! Testun)...
- Ar Ôl Galwadau...
- Dileu Man Aros...
Dolen Prawf Gweminar (cwblhewch y prawf canlynol pan fyddwch yn barod)
Sicrhewch fod eich cyfeiriadau e-bost yn cael eu mewnbynnu'n ofalus a chofiwch glicio ‘Submit’ pan fyddwch wedi gorffen. Byddwch yn cael gwybod drwy e-bost y diwrnod gwaith nesaf (Llun - Gwener) o'ch canlyniad.