A ydych am redeg sesiwn therapi grŵp neu sesiwn addysg grŵp ar-lein trwy fideo? A ydych yn ystyried symud i grŵp sy’n bodoli eisoes ar-lein trwy fideo? Ydych chi’n gweithio gyda GIG Cymru?

Bydd yr hyfforddiant hwn yn dangos i chi sut i wneud y canlynol:

  • Casglu’r holl wybodaeth sydd ei angen cyn y sesiwn
  • Gwahodd yr holl gyfranogwyr yn ddiogel a chyfrinachol i’r sesiwn
  • Rhedeg y sesiwn yn ddiogel
  • Defnyddio syniadau disglair a phrotocolau rhedeg sesiwn fideo
  • Monitro a delio ag unrhyw ymddygiad annerbyniol 
  • Cau’r sesiwn i lawr yn ddiogel
  • Cynnal dilyniant yn ddiogel a chyfrinachol gyda’r holl gyfranogwyr
  • Hyfforddiant Attend Anywhere llawn (sef y dewis lwyfan i’w ddefnyddio i hwyluso sesiwn grŵp ar-lein)

Bydd yr hyfforddiant Attend Anywhere yn cynnwys mewngofnodi, ardaloedd aros, esbonio’r sgrin, cynnal ymgynghoriad grŵp, botymau swyddogaeth mewn grŵp  gan gynnwys ystafelloedd ar wahân. Hefyd, sut i reoli ardaloedd aros, sut i ychwanegu a symud defnyddwyr a sut i newid gosodiadau’r ardal aros. Byddwn hefyd yn dangos i chi sut mae ymgynghoriad ar Attend Anywhere yn cael ei gynnal. Wedi’r hyfforddiant Attend Anywhere llawn, cewch gyfrif gan eich Bwrdd Iechyd. Os oes gennych gyfrif Attend Anywhere eisoes, gallwch adael wedi 2.5 awr.

Mae’r hyfforddiant hwn yn addas i unrhyw weithwyr clinigol neu weinyddwyr yn GIG Cymru sydd eisiau sefydlu a rhedeg sesiynau therapi grŵp neu sesiynau addysg grŵp trwy fideo.

Bydd y sesiwn hyfforddi yn para rhyw 3 awr a bydd digon o gyfle i holi cwestiynau ac ymuno yn y trafodaethau.

* Byddwch yn derbyn gwahoddiad i Teams trwy e-bost i ymuno â’r sesiwn hyfforddi 24 awr cyn i’r hyfforddiant gychwyn *

archebu sesiwn