teccymru

Bydd apwyntiadau ar-lein yn "trawsnewid" gofal iechyd yng Nghymru, yn ôl un o arweinwyr cynllun iechyd digidol.

Mae dros 80,000 o apwyntiadau fideo wedi cael eu cynnal gan feddygon teulu a gwasanaethau eraill ers dechrau'r pandemig ym mis Mawrth.

GP on video call

Nawr bydd Gwasanaeth Ymgynghori Fideo GIG Cymru yn cynnig technoleg o'r fath i optometryddion, fferyllwyr a deintyddion yng Nghymru.

Er bod gwasanaeth o'r fath wedi bod yn un angenrheidiol oherwydd Covid-19, dywedodd yr Athro Alka Ahuja o'r gwasanaeth ei fod yma i aros.

"Dydyn ni ddim eisiau bod yn mynd am yn ôl," meddai.

"Rydyn ni wedi dysgu sut mae'n gweithio a'r hyn mae'n ei wneud i'n cleifion, ac ry'n ni wedi dysgu ei fod yn arbed amser teithio a lleihau ein ôl-troed carbon."

Mae Gwasanaeth Ymgynghori Fideo GIG Cymru yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru fel rhan o gronfa gwerth £50m i flaenoriaethu gwasanaethau digidol.

'Gwneud chi'n fwy cyfforddus'

Fe wnaeth Stephen Manley, wnaeth adael y lluoedd arfog yn ddiweddar ar ôl bod yn filwr am 36 mlynedd, ddefnyddio'r gwasanaeth fideo ar ôl cael Anhwylder Straen Wedi Trawma - PTSD.

Cafodd ei sesiynau eu symud ar-lein pan ddechreuodd y pandemig - opsiwn roedd Mr Manley yn ei ffafrio.

"Mae'n helpu mewn cymaint o ffyrdd ac yn eich gwneud chi'n fwy cyfforddus," meddai.

"Dydych chi ddim mewn amgylchedd clinigol. Fe alla i fod ar y soffa yn cael paned o goffi - mae'n relaxed iawn."

Mae ffigyrau diweddaraf GIG Cymru yn dangos bod apwyntiadau ar-lein yn cael eu cynnig gan dros 70% o'r 397 o feddygfeydd yng Nghymru.

Hyd yma, 273 o'r 1,592 o optometryddion, fferyllwyr a deintyddion preifat yng Nghymru sydd wedi dechrau defnyddio'r gwasanaeth, ac mae GIG Cymru yn darparu hyfforddiant i gael mwy o staff iechyd yn barod i'w ddefnyddio.

'Pwysig cadw apwyntiadau wyneb i wyneb'

Ond mae pryderon wedi'u codi am gleifion sydd ddim â chysylltiad da gyda'r we, neu rheiny sydd ddim yn defnyddio'r we o gwbl.

Dywedodd elusen Age Cymru ei bod yn bwysig cadw apwyntiadau wyneb yn wyneb fel opsiwn.

Ond mae'r Athro Ahuja yn mynnu y bydd y cynllun yn gwella, nid gostwng safon y gofal.

"Yn yr achosion fydd yn briodol, bydd cleifion yn derbyn apwyntiadau digidol, a bydd hynny'n rhyddhau mwy o amser i weld cleifion sydd efallai angen apwyntiad hirach, neu un wyneb yn wyneb," meddai.

Ysgrifennwyd yr erthygl hon gan BBC News.