Mae'r Brifysgol Agored yng Nghymru (OU) wedi llwyddo i sicrhau cynnig i barhau i gynnig lleoedd wedi’u hariannu ar ei Prentisiaeth Radd mewn Peirianneg Feddalwedd Gymhwysol.

a woman at a computer

Mae’r rhaglen Brentisiaeth Radd ar gael i gyflogwyr ledled Cymru yn y sector cyhoeddus a phreifat.

Mae'r brentisiaeth yn addas i staff cyfredol sy'n gweithio mewn swyddi digidol a thechnoleg ac sy'n treulio'r rhan fwyaf o'u horiau gweithio yng Nghymru.

Mae’r Brentisiaeth Radd yn cael ei darparu i gyd-fynd ag anghenion y sefydliad, a gellir defnyddio’r rhaglen i uwchsgilio gweithwyr neu recriwtio doniau newydd i fusnes drwy waith academaidd a dysgu’n seiliedig ar waith. Does dim gofynion mynediad ffurfiol, ac mae prentisiaid yn cael eu cefnogi’n llawn gan Diwtor Ymarfer o’r Brifysgol Agored yn y gweithle ac ar-lein. Ar ôl cwblhau’r cwrs, bydd prentisiaid yn derbyn BSc (Anrh) mewn Peirianneg Feddalwedd Gymhwysol.

Bydd y rhaglen yn darparu'r wybodaeth, y sgiliau a'r nodweddion ymddygiad sydd eu hangen ar brentisiaid i ddod yn beiriannydd meddalwedd llwyddiannus.



Nodweddion allweddol:

  • Darpariaeth hyblyg ar-lein
  • Rhaglenni gradd wedi’u hariannu’n llawn
  • Cefnogir y rhaglen gan Diwtor Ymarfer o’r Brifysgol Agored i gynorthwyo gweithle a dysgu ar-lein drwy’r rhaglen
  • Ar gael i weithwyr presennol ar gyfer dilyniant gyrfa a datblygu sgiliau, yn ogystal â chyflogi doniau newydd a thyfu eich tîm
  • Nid oes gofynion mynediad ffurfiol
  • Mae ein rhaglen bresennol yn cynnwys prentisiaid o amrywiaeth o gyflogwyr, yn cynnwys; y GIG, BBaChau, awdurdodau lleol, fintech a gweithgynhyrchu.

Bydd y rhaglen yn darparu gwybodaeth a sgiliau newydd i brentisiaid mewn meysydd megis:

  • Technolegau gwe, symudol a chwmwl
  • Rhaglennu
  • Profiadau defnyddiwr
  • Peirianneg Feddalwedd
  • Rheoli prosiect.

Ar ôl cwblhau’r cwrs, bydd prentisiaid yn ennill BSc (Anrh) mewn Peirianneg Feddalwedd Gymhwysol.

The programme will provide apprentices with new knowledge and skills in areas such as:

  • Web, mobile and cloud technologies
  • Programming
  • User experience
  • Software Engineering
  • Project management.

Os hoffai'ch sefydliad ddarganfod sut y gallant gefnogi rhaglen Prentisiaeth Gradd y Brifysgol Agored, cysylltwch ag Alun Franks.

Louise Casella, Cyfarwyddwr y Brifysgol Agored yng Nghymru

Rydym yn falch iawn o allu parhau i gefnogi’r galw gan gyflogwyr yng Nghymru i helpu i ddatblygu eu staff. Mae prentisiaid gradd ledled Cymru yn astudio mewn ffordd hyblyg gyda’r Brifysgol Agored, er mwyn mireinio sgiliau a helpu i fodloni anghenion eu sefydliadau. Mae prinder sgiliau mewn peirianneg feddalwedd yn bodoli hyd heddiw, a dyna pam fod buddsoddi yn y maes hwn mor bwysig o ran gwella ein heconomi.

Mae disgwyl y bydd galw sylweddol am ddatblygwyr meddalwedd a swyddi proffesiynol perthnasol yn y dyfodol, o gymharu â swyddi eraill yng Nghymru¹. Nododd adroddiad diweddar a gomisiynwyd gan y Brifysgol Agored a Be the Business nad oedd 77% o arweinwyr busnes ym Mhrydain yn meddu ar y sgiliau angenrheidiol i ddefnyddio technoleg newydd o fewn eu busnes yn llwyddiannus.

Drwy’r rhaglen Brentisiaeth Radd mewn Peirianneg Feddalwedd Gymhwysol, mae’r Brifysgol Agored yng Nghymru yn gobeithio helpu sefydliadau ym mhob sector i ddelio â galw sylweddol am weithwyr medrus mewn swyddi digidol a thechnegol.

Dysgwch fwy am Brentisiaethau Gradd y Brifysgol Agored yng Nghymru.

Ariennir y rhaglen gan Lywodraeth Cymru drwy Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (HEFCW).

Logo yr OU