Caiff Iechyd a Gofal Digidol Cymru ei lansio’n swyddogol heddiw. Crëwyd y sefydliad newydd i symud trawsnewid digidol ymlaen, a bydd yn darparu’r gwasanaethau technoleg a data cenedlaethol sydd eu hangen ar gleifion a chlinigwyr.

digital health and care wales logo

Yn Awdurdod Iechyd Arbennig gyda Chadeirydd a Bwrdd annibynnol, mae’n disodli Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru, ac mae hyn yn dangos pwysigrwydd y byd digidol a data mewn iechyd a gofal modern.

Mae Cymru Iachach, cynllun Llywodraeth Cymru ar gyfer iechyd a gofal, yn nodi bod datblygu gwasanaethau digidol yn allweddol er mwyn darparu gwasanaethau sy’n addas at y dyfodol.

Meddai Bob Hudson OBE, Cadeirydd dros dro:

“Mae technoleg yn newid yn gynt nag erioed. Rydym wedi gweld sut mae gweithredu technoleg newydd yn gyflym wedi cefnogi ymateb GIG Cymru i’r pandemig, gyda dros 5,000 o ymgynghoriadau fideo bob wythnos, platfform olrhain cysylltiadau cenedlaethol a system frechu. Ond mae mwy i’w wneud.

Mae’r cyfnod hwn yn drobwynt, lle gall technolegau newydd drawsnewid y modd y caiff gofal iechyd ei ddarparu, a bydd yr Awdurdod Iechyd Arbennig newydd yn sicrhau bod Cymru ar flaen y gad yn y chwyldro hwn.”

Fel un o’r ychydig genhedloedd lle gall data cleifion eu dilyn o gwmpas y system, mae Cymru mewn sefyllfa dda i osod y byd digidol wrth wraidd iechyd a gofal.

Wrth symud ymlaen, mae’r Awdurdod Iechyd Arbennig newydd yn nodi newid mewn pwyslais sy’n canolbwyntio ar ddarparu, arloesi a chefnogi iechyd a llesiant unigolion.

Meddai Helen Thomas, Prif Swyddog Gweithredol dros dro:

“Mae creu Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn gam cadarnhaol iawn sy’n caniatáu i ni gefnogi’r system ehangach, gyda’r fantais o raddfa pan mae’n bwysig, ynghyd â dealltwriaeth o anghenion iechyd ein cymunedau.

Dyma adeg gyffrous a dechrau cyfnod newydd i iechyd a gofal digidol. Mae technoleg yn esblygu ac mae’r pandemig wedi dangos na fu erioed yn bwysicach i’n GIG. Yn awr, rydym yn edrych ymlaen at gydweithio â chleifion a gweithwyr iechyd proffesiynol i arloesi, symud ymlaen a sicrhau bod technoleg a data’n gweithio er gwell iechyd.”

Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru wedi’i sefydlu’n gorff cenedlaethol gan Lywodraeth Cymru ac mae’n rhan o deulu GIG Cymru.

Bydd gan y sefydliad rôl allweddol yn y canlynol:

  • Trawsnewid gwasanaethau digidol ar gyfer cleifion a’r cyhoedd
  • Trawsnewid gwasanaethau digidol ar gyfer gweithwyr proffesiynol
  • Buddsoddi mewn data a gwybodaeth ddeallus
  • Moderneiddio dyfeisiau a symud at wasanaethau cwmwl
  • Seiberddiogelwch a chadernid