Mae'r tîm Ecosystem wedi bod yn gweithio gyda'r tîm Gwelliant Cymru yn Iechyd Cyhoeddus Cymru i lansio Llwyfan Adnoddau ar-lein newydd ar gyfer Cartrefi Gofal a Staff Cartrefi sydd angen mynediad cyflym a hawdd at wybodaeth hanfodol.

patient with nurse laughing

Roedd Gwelliant Cymru yn cydnabod y gallai staff cartrefi gofal a staff gofal cartref arbed amser hollbwysig pe byddai modd iddynt gael gafael ar yr wybodaeth ar-lein sydd ei hangen arnynt yn ddyddiol, mewn un lle, naill ai ar ffôn symudol neu gyfrifiadur.

Gweithiodd tîm Cartref Gofal Cymru yn Gwelliant Cymru mewn partneriaeth ag Iechyd Cyhoeddus Cymru a Llywodraeth Cymru i nodi'r wybodaeth y mae angen i staff ei chyrchu, wrth weithio gyda thîm Ecosystem Iechyd Digidol Cymru i adeiladu adnodd gwefan.

Mae ar gael ar ap (Saesneg yn unig) a gwefan (ddwyieithog) i'w gwneud hi'n hawdd gweld, dros y ffôn neu fwrdd gwaith, mewn gwahanol leoliadau lle mae staff yn ystod eu sifftiau. Mae'r dolenni’n cynnwys gwybodaeth am reoli heintiau, nodi dirywiad, iechyd meddwl a llesiant, COVID-19, hyfforddiant, arweiniad a chysylltiadau defnyddiol.

Dywedodd Rosalyn Davies, Arweinydd Rhaglen Gwelliant Cymru:

“Rydym yn falch iawn o ddarparu cefnogaeth i staff cartrefi gofal a staff gofal cartref gyda'r Platfform Adnoddau sy'n darparu'r cysylltiadau sydd eu hangen ar staff prysur i gael yr wybodaeth ddiweddaraf yn ystod y cyfnod anodd hwn. Hoffem ddiolch i Iechyd Cyhoeddus Cymru, Llywodraeth Cymru, tîm yr Ecosystem ac i’n partneriaid iechyd a gofal cymdeithasol am eu cyfraniadau a'u cefnogaeth.”

Dywedodd Helen Northmore, Pennaeth Digidol ac AI yn Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru:

“Roeddem yn awyddus i weithio gyda Gwelliant Cymru i ddarparu adnodd gwefan ar gyfer Cartref Gofal Cymru, gan ein bod am i www.iechyddigidol.cymru fod yn storfa adnoddau a gwybodaeth i bawb sy'n gweithio ym maes iechyd a gofal digidol. Mae dod â gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth ynghyd yn weithgaredd allweddol yn yr Ecosystem ac rydym yn gyffrous i weld yr ystod newydd o wybodaeth ac adnoddau hanfodol ar gael ar-lein.”

Gellir cael mynediad i’r Platfform Adnoddau trwy: