Croesawodd EIDC ystod eang o bartneriaid Ecosystem o’r GIG, gofal cymdeithasol, diwydiant a’r byd academaidd i’r Hwb Gwyddorau Bywyd ar gyfer eu digwyddiad ‘Gwerthuso Gwerthusiad’ ar ddydd Iau 26ain Medi 2019.
Nod y digwyddiad oedd archwilio sut beth yw gwerthusiad da o dechnolegau gofal iechyd digidol a’n helpu ni gyd i ddeall pa dystiolaeth y dylem ei chasglu i ddangos effeithiolrwydd a gwerth cynnyrch neu wasanaeth. Cawsom siaradwyr gwych yn siarad am eu prosiectau a sut y cawsant eu gwerthuso (neu y maent yn cael eu gwerthuso).
Yn gyntaf, siaradodd Fran Beadle, Arweinydd Gwybodeg Glinigol Genedlaethol (Nyrsio) GGGIG, am y siwrnai o ddarparu e-Nyrsio. Trwy'r prosiect hwn, mae nyrsio yn cael ei drawsnewid i greu ffordd ddigidol o weithio. Mae'r arfer cyfredol o gofnodi a chadw cofnodion papur wedi dod yn faich ac mae'n cymryd staff rheng flaen i ffwrdd o weithgareddau gofal. Mae GGGIG yn gweithio gyda nyrsys ar draws pob Bwrdd Iechyd i gynhyrchu dogfennau nyrsio digidol sy'n dilyn claf trwy ei daith gofal iechyd. Cerddodd Fran a ni trwy gerrig milltir amrywiol y prosiect a'r gwersi a ddysgwyd ar hyd y ffordd (cynnwys y defnyddwyr o’r diwrnod cyntaf!) ac roedd yn wych clywed y bydd e-Nyrsio ar gael i'w gyflwyno'n genedlaethol ym mis Tachwedd 2019.
Nesaf, buom yn siarad am brosiect EIDC, yn tracio asedau yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg. Trafododd Rob Salter (Cwm Taf Morgannwg UHB), Sue Rawlings a Pauline Heffernan (RHCS) yr heriau o werthuso'r prosiect a rhannu rhai o'r canlyniadau a'r materion cynnar a godwyd. Er enghraifft, siaradodd y tîm am fethu â thracio gwelyau wrth iddynt gael eu hatgyweirio. Mae'r gallu i wybod pryd mae gwely ar gael i'w ddefnyddio eto neu'n dal i fod yn y bae atgyweirio yn hynod werthfawr, ac mae'r tîm yn gweithio ar sut y gall hyn fwydo mewn i'r prosiect.
Ymunodd James Griffiths, Uwch Reolwr Prosiect Caffael Seiliedig ar Werth, Gwasanaethau a Rennir GIG Cymru, â ni i gyflwyno ar bwysigrwydd cynyddol tystiolaeth o fewn Caffael Seiliedig ar Werth a sut y bydd yn newid sut rydym yn casglu tystiolaeth ac yn gwerthuso prosiectau. Un enghraifft, oedd cymhorthion clyw. Mae defnyddwyr yn gymwys i gael batris am ddim am byth ac mae'n rhaid iddynt gael apwyntiad claf allanol. Llwyddodd caffaeliad newydd yn seiliedig ar bris i dorri pris cymhorthion clyw - ond hanerwyd oes y batri, gan ofyn am ddwywaith cymaint o ymweliadau cleifion allanol felly ni arbedwyd arian yn gyffredinol. Trwy asesu'r gwerth, mesur yr hyn sy'n bwysig ac edrych ar werth canlyniadau i gleifion dros y gost arbed ariannol, ni fyddai'r mater hwn wedi bodoli.
I ddod â'r digwyddiad i ben, cyflwynodd David Jarrom, o Technoleg Iechyd Cymru, ddiweddariad ar Technoleg Iechyd Cymru a'r alwad ddiweddaraf am bynciau. Soniodd hefyd sut roedd TIC yn mabwysiadu’r Fframwaith Safonau Tystiolaeth NICE ar gyfer Technolegau Gofal Iechyd Digidol. Aeth David â ni trwy'r fframwaith ac esboniodd y mathau a'r lefelau tystiolaeth a amlinellwyd ynddo, gan ddefnyddio'r prosiectau cynharach fel enghreifftiau da.
Mae’r cyflwyniadau o’r digwyddiad ar gael yma:
- Cyflwyniad David Jarrom
- Cyflwyniad Fran Beadle
- Cyflwyniad James Griffiths
- Cyflwyniad Pauline Heffernan a Sue Rawlings
Ydych chi wedi arwyddo lan i dderbyn ein cylchlythyr?