Mae TEC Cymru, y rhaglen genedlaethol ar gyfer gofal a alluogir gan dechnoleg yng Nghymru, wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer y Wobr Trawsnewid ganolog yng Ngwobrau ITEC TSA 2022, yn dilyn cyflwyned cyflym Gwasanaeth Ymgynghori Fideo (YF) GIG Cymru.
Mae ITEC yn cynrychioli Arloesedd, Integreiddio a Gwelliant gan ddefnyddio Gofal wedi’i Galluogi gan Dechnoleg, ac mae Gwobr ITEC TSA yn amlygu sefydliadau yn y DU a thramor sy’n gwneud y mwyaf i sicrhau buddion sylweddol i ddefnyddwyr, gofalwyr a chymunedau, yn ogystal ag i gomisiynwyr a darparwyr.
Mae TEC Cymru yn falch iawn o fod wedi cyrraedd y rhestr fer ymhlith dros 60 o ymgeiswyr, y mae llawer ohonynt wedi cynllunio a gweithredu trawsnewid mawr ar draws eu sefydliad gyda dull rhagweithiol ac ataliol.
Ar ôl cynllunio’n wreiddiol i gyflwyno Ymgynghori Fideo (YF) dros nifer o flynyddoedd yng Nghymru, gofynnodd Llywodraeth Cymru i TEC Cymru ym mis Mawrth 2020 i gyflymu ei gynlluniau ac aeth yn fyw ar draws pob bwrdd iechyd o fewn ychydig wythnosau. Mae'r sefydliad wedi cyflawni trawsnewid sylweddol drwy ddarparu mynediad diogel, sicr a pharhaus i wasanaethau gofal a'r GIG ar fyrder, yn dilyn yr her sylweddol a gyflwynwyd gan yr achosion o Covid-19.
Dywedodd Sara Khalil, Arweinydd Rhaglen TEC Cymru:
“Roedd y rhaglen genedlaethol hon yn ymdrech wirioneddol gydweithredol ac rydym yn falch iawn bod y timau niferus sy’n ymwneud â GIG Cymru wedi cael eu cydnabod. Daeth yr amgylchiadau a ysgogodd fabwysiadu'r Ymgynghoriad Fideo allan o reidrwydd, fodd bynnag mae'n hyfryd gweld awydd i fideo aros fel rhan gynaliadwy o wasanaethau. Mae’n parhau i gael ei ddefnyddio gan dros 50 o arbenigeddau ac mewn bron i ddwy flynedd, mae dros 300,000 o ymgynghoriadau wedi’u cynnal. Dymunwn bob lwc i bob ymgeisydd ac edrychwn ymlaen at seremoni Gwobrau ITEC TSA.”.
Cyhoeddir y gwobrau yng nghynhadledd ITEC eleni gyda'r nos ar 28 Mawrth 2022 yn ICC Birmingham.