Mae darparwyr iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru wedi wynebu heriau capasiti digynsail trwy gydol yr ymateb i’r pandemig. Mae’r cyfryngau wedi cyfeirio at ymateb yn seiliedig ar ddata i’r gwaith o fodelu a rhagweld Mae clinigwyr wedi siarad am yr angen i gael y data cywir ar yr amser cywir ac yn y fformat cywir er mwyn gwneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth.
Yng Nghymru, rydym yn cymryd cam mawr ymlaen i fynd i'r afael â'r heriau hyn gyda'r Adnodd Data Cenedlaethol (NDR).
Beth yw'r rhaglen Adnodd Data Cenedlaethol?
Mae’r Adnodd Data Cenedlaethol yn blatfform data cenedlaethol newydd sy'n dwyn ynghyd ddata am wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol o bob rhan o Gymru. Wrth wneud hynny, mae'n ei gwneud hi’n haws cael gafael ar y data, eu rhannu a'u dadansoddi fel y gall defnyddwyr wneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth, p'un a ydynt yn weithwyr iechyd proffesiynol neu'n gleifion.
Bydd yr Adnodd Data Cenedlaethol yn darparu data ar gyfer ystod eang o apiau ac mae hybrid diogel o systemau a warysau data newydd a phresennol yn sail iddo (casgliad o setiau data wedi'u trefnu i hwyluso dadansoddi).
Fel gweithiwr iechyd proffesiynol, sut bydd yr Adnodd Data Cenedlaethol yn fy helpu i?
Mae meddu ar wybodaeth dda sy’n ysgogi gwneud penderfyniadau gwell yn allweddol i ddarparu gwasanaeth rhagorol i gleifion a gwella eu gofal.
Bydd yr Adnodd Data Cenedlaethol yn cefnogi’r gwaith o greu cofnod 'meistr' dibynadwy a chysylltiedig i gleifion, un ffynhonnell o'r gwir y gellir ei defnyddio ar draws lleoliadau gofal i leihau prosesau casglu data dyblyg, sicrhau bod gwybodaeth berthnasol ar gael pan fo angen a helpu i leihau trosglwyddo gwybodaeth yn araf ar bapur.
Mae gan yr Adnodd Data Cenedlaethol fynediad at gronfa gyfoethog o ddata a gwybodaeth ar draws lleoliadau iechyd a gofal y gellir eu defnyddio i helpu dadansoddwyr a byrddau iechyd i wneud gwell penderfyniadau cynllunio ac adnoddu.
Mae'r enghreifftiau hyn yn cyfeirio at rai o’r buddion niferus yn unig y gellir eu cael o'r rhaglen Adnodd Data Cenedlaethol.
Fel claf, beth mae'r Adnodd Data Cenedlaethol yn ei olygu i mi?
Er mwyn helpu i fy niogelu i a’m teulu, mae'r Adnodd Data Cenedlaethol yn chwarae rhan bwysig yn ymateb Cymru i COVID-19 trwy adnabod a chefnogi cleifion sy’n gwarchod, modelu lledaeniad y feirws i gefnogi'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau, a helpu i dracio ac olrhain i leihau lledaeniad y feirws.
Fel claf, hoffwn hefyd weld bod mwy o dryloywder ynglŷn â sut mae fy ngofal yn cael ei drefnu, er mwyn cymryd mwy o ran yn fy ngofal a bod yn ymwybodol o sut y gallaf fonitro a rheoli fy ngofal fy hun. Gellir cyflawni hyn trwy apiau cleifion sy'n defnyddio cofnodion digidol a gefnogir gan yr Adnodd Data Cenedlaethol.
Sut mae cymryd rhan a chael rhagor o wybodaeth?
Roedd yn gyffrous i ni allu lansio cyfres Gweminar Ar-lein yr Adnodd Data Cenedlaethol yn ddiweddar, sef cyfres o weithdai ar-lein, sesiynau at wraidd y mater a gwybodaeth friffio i drafod ac arddangos y gwaith pwysig sy'n digwydd ledled GIG Cymru sy'n gysylltiedig â'r Adnodd Data Cenedlaethol.
Dyma gyfle i ddysgu rhagor am yr Adnodd Data Cenedlaethol. Rydym yn rhannu straeon a safbwyntiau ar sut y gall yr Adnodd Data Cenedlaethol drawsnewid iechyd a gofal ledled Cymru, byddwch yn clywed barn arbenigol ar fentrau mawr a gefnogir gan yr Adnodd Data Cenedlaethol a phartneriaid, a byddwn yn cael trafodaeth agored gyda chi i gasglu eich adborth.
Cofrestrwch nawr i fynd at wraidd technoleg yn yr Adnodd Data Cenedlaethol newydd ar gyfer Cymru.
Bydd yr ail weminar yn y gyfres ar 15 Rhagfyr a bydd yn edrych ar themâu pensaernïaeth a thechnoleg yr Adnodd Data Cenedlaethol, gan ganolbwyntio ar arloesi a chydweithrediad.