Mae Aaron Edwards, Uwch Reolwr Prosiect gyda TEC Cymru, yn esbonio beth yw teleofal, y sefyllfa bresennol a sut bydd TEC Cymru yn cyfrannu.
Beth yw Teleofal?
Mae gwasanaethau teleofal yn cynnig gofal o bell i ddinasyddion, fel arfer pobl oedrannus a’r rhai sy’n llai abl yn gorfforol, gan roi sicrwydd iddynt trwy amrywiaeth o dechnolegau cynorthwyol. Uned cortyn gwddf a llinell fywyd larwm yw'r rhain fel arfer, lle mae'r alwad yn cael ei throsglwyddo i Ganolfan Derbyn Larymau (CDL).
Mae mwy o 'becynnau' teleofal mwy cynhwysfawr y gellir eu defnyddio ar gyfer pobl sydd â chyflyrau iechyd penodol, fel dementia, na fyddent fel arall yn gallu defnyddio cortyn gwddf sy’n gorfod cael ei wasgu’n gorfforol. Byddai dyfeisiau fel synwyryddion drws, synwyryddion gwely a synwyryddion cwymp awtomatig yn cael eu defnyddio i sicrhau diogelwch gartref, lle mae cymorth wrth law 24/7.
Teleofal yng Nghymru
Soniwyd am yr angen am raglen genedlaethol ar gyfer teleofal yng Nghymru ers sawl blwyddyn ymhlith y 22 awdurdod lleol sy'n darparu'r gwasanaeth hanfodol hwn. Mae pob cyngor yng Nghymru a nifer o gymdeithasau tai yn darparu teleofal, gan sicrhau bod cymorth bob amser ar gael i ddinasyddion a thenantiaid.
Fodd bynnag, dros y blynyddoedd diwethaf mae'r gwasanaethau teleofal lleol hyn wedi wynebu heriau di-ri’: mae mesurau cyni, cyllid tymor byr, targedau incwm a diffyg gwybodaeth arbenigol 'TEC' yn rhai o’r heriau allweddol sydd wedi rhoi pwysau arnynt wrth geisio tyfu eu priod wasanaethau.
Beth yw rôl TEC Cymru yn hyn o beth?
TEC Cymru yw'r rhaglen genedlaethol sy'n cefnogi'r newid i ofal a alluogir gan dechnoleg yng Nghymru. Rydym yn ceisio cyflymu'r broses o fabwysiadu TEC mewn meysydd iechyd a gofal cymdeithasol, wedi'i hategu gan dystiolaeth a gwerthusiad cadarn.
Cyn y gallai'r rhaglen teleofal gael ei chwmpasu’n briodol, roedd angen i TEC Cymru ddeall y sefyllfa ledled Cymru o ran sut roedd y gwasanaethau hyn yn cael eu darparu. Gyda chymorth y cwmni ymgynghori TEC arbenigol FarrPoint, anfonwyd arolwg at y 22 o arweinwyr gwasanaeth teleofal awdurdodau lleol. Ategwyd hyn trwy gynnal gweithdai a sesiynau grŵp ffocws gyda rhanddeiliaid allweddol ar draws iechyd, gofal cymdeithasol a diwydiant. Yna cafodd y canfyddiadau eu cyfuno mewn adroddiad darganfod.
Cadarnhaodd yr adroddiad rai tybiaethau, yn fwyaf nodedig bod teleofal yn cael ei ddarparu mewn ffyrdd gwahanol ledled Cymru. Mae costau wythnosol yn amrywio'n sylweddol, o £1.10 i £4.50. Mae'r nifer sy'n derbyn gwasanaethau (fesul 1,000 o’r boblogaeth) yn amrywio hyd at ffactor o bedwar, gyda 43 yr isaf a 143 yr uchaf. Mae dros 77,000 o ddinasyddion yng Nghymru'n defnyddio teleofal. Mae hyn yn cyfateb i 34% o'r boblogaeth gyfan dros 85 oed.
Tynnwyd sylw yn yr adroddiad darganfod at dri maes allweddol i TEC Cymru ganolbwyntio arnynt:
- Dod yn Ganolfan Ragoriaeth Genedlaethol ar gyfer pob gweithgaredd sy'n gysylltiedig â theleofal yng Nghymru;
- Cefnogi gwasanaethau teleofal lleol wrth symud i dechnolegau digidol;
- Mynd ati i hyrwyddo datblygu teleofal yng Nghymru, ac integreiddio gwasanaethau TEC.
Beth nesaf?
Rydym wedi sefydlu Bwrdd Rhaglen yn ddiweddar, a fydd yn cael ei gefnogi gan y Gweithgor Teleofal. Byddwn yn cwrdd bob chwe wythnos i roi diweddariadau ffrwd waith i'r rhai sy'n ymwneud â gwasanaethau teleofal yn strategol ac yn weithredol. Mae hyn yn sicrhau mai llywodraethu, ymgysylltu a gweithredu yw'r sylfeini y mae'r rhaglen yn cael ei hadeiladu arnynt.
Erbyn canol 2022, byddwn yn darparu cymorth penodol i wasanaethau teleofal lleol trwy Ganolfan Adnoddau, a fydd yn cynnwys nifer o ddogfennau a fydd yn cefnogi cydweithwyr sy'n ymgymryd â phrosiectau sy'n benodol i deleofal. Byddwn hefyd yn darparu adnoddau staffio ar gyfer prosiectau sy'n gysylltiedig â mudo digidol, megis Rheoli Prosiectau a Dadansoddi Busnes. Ni fydd gan y rhan fwyaf o wasanaethau teleofal lleol yng Nghymru dîm prosiect penodol, felly mae angen dybryd i ddarparu'r cymorth hwn ar lefel genedlaethol er mwyn sicrhau arweiniad cydlynol a chyson.
Rwy'n hynod frwd dros deleofal a'r angen i uno gwasanaethau lle bo hynny'n bosibl, gan sicrhau bod diwylliant o gysondeb a pherfformiad uchel yn cael ei ymgorffori ledled Cymru i gefnogi'r rhai sy'n dibynnu cymaint ar y gwasanaethau gwych hyn sy'n hanfodol i fywyd.
Edrychwch ar yr Adroddiad Darganfod Teleofal a chysylltwch ag Aaron os hoffech wybod mwy.