Nod cytundeb cydweithredu newydd rhwng y sefydliadau sydd â'r dasg o ddarparu Teleofal digidol yng Nghymru a’r Alban yw ceisio ei gwneud yn haws i drigolion lleol gael mynediad i’r lefelau gorau posibl o Deleofal er mwyn rheoli'r risgiau sy'n gysylltiedig â byw'n annibynnol.
Nod y cydweithio rhwng TEC Cymru a Swyddfa Ddigidol Llywodraeth Leol yr Alban yw darparu dull cydlynol o ymdrin â theleofal, gan gynnwys monitro o bell mewn amser real, a thrwy hynny wneud y mwyaf o'r cymorth sydd ar gael i'r rhai sydd ei angen.
Yn ogystal â rhannu arfer gorau a chanllawiau rhwng Cymru a'r Alban, bydd y sefydliadau'n ceisio creu canolfan adnoddau ganolog unedig ar gyfer dogfennau a phecynnau cymorth hanfodol sy'n ymwneud â mudo digidol gwasanaethau teleofal.
Yn yr Alban, mae canolfan adnoddau a elwir yn ‘Llyfr Chwarae Digidol’, eisoes yn bodoli ac fe'i crëwyd gan Swyddfa Ddigidol Llywodraeth Leol yn yr Alban. Ei nod yw cefnogi gwasanaethau teleofal lleol ar sut i bontio eu gwasanaeth presennol yn effeithiol i 'ddigidol'.
Yng Nghymru, bydd TEC Cymru, y rhaglen genedlaethol ar gyfer gofalu a alluogir gan dechnoleg a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru, yn creu ei chanolfan adnoddau ei hun, gan ddefnyddio'r asedau, yr arloesedd a'r arferion gorau sydd ar gael o'r Alban.
Bydd hyn yn cynnwys canfyddiadau astudiaethau strategol allweddol a gomisiynwyd ym mis Tachwedd ynghylch:
- Model ar gyfer Gwasanaeth Teleofal Teg, a
- Strategaeth Teleofal Digidol.
Bydd y canfyddiadau hyn hefyd yn cael eu rhannu â Swyddfa Ddigidol Llywodraeth Leol yr Alban gyda'r bwriad o greu, rhannu a chynnal asedau teleofal sy'n fuddiol i'r ddwy ochr o fewn y canolfannau adnoddau perthnasol yn barhaus.
Bydd y cytundeb cydweithredu yn cynnwys cyfnewid ymchwil sy'n gysylltiedig â theleofal yn rhad ac am ddim, safonau technegol, dogfennaeth ac asedau cyfryngol eraill.
Meddai Mike Ogonovsky, Uwch-swyddog Cyfrifol yn TEC Cymru:
“Soniwyd am yr angen am raglen genedlaethol ar gyfer teleofal yng Nghymru ers sawl blwyddyn ymhlith y 22 awdurdod lleol sy'n darparu'r gwasanaeth hanfodol hwn.
"Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae heriau fel mesurau cyni, cyllid tymor byr, targedau incwm a diffyg gwybodaeth arbenigol 'TEC' wedi ei gwneud yn anodd i gynghorau a chymdeithasau tai ddarparu teleofal, gan sicrhau bod cymorth bob amser ar gael i ddinasyddion a thenantiaid.
"Drwy ddeall y sefyllfa ledled Cymru o’r ffordd yr oedd y gwasanaethau hyn yn cael eu darparu a thrwy greu’r cydweithrediad hwn â Swyddfa Ddigidol Llywodraeth Leol yr Alban, gall TEC Cymru geisio ymestyn y broses o fabwysiadu TEC i feysydd iechyd a gofal cymdeithasol yn gyflym, wedi'u hategu gan dystiolaeth a gwerthusiad cadarn."
Meddai Martyn Wallace, Prif Swyddog Digidol Swyddfa Ddigidol Llywodraeth Leol yr Alban:
"Gyda'r trosglwyddo teleffoni o analog i ddigidol yn digwydd ym mis Rhagfyr 2025 yn dod yn nes fyth, rwy'n falch iawn o fod yn rhan o'r bartneriaeth newydd hon â chydweithwyr yn TEC Cymru.
"Mae'n gyfle gwych a fydd yn adeiladu ar y berthynas bresennol a gawsom wrth fanteisio hefyd ar fuddion cydweithio a gweithio mewn partneriaeth i adeiladu gwasanaethau ac atebion Teleofal Digidol newydd a fydd yn gwella canlyniadau i ddinasyddion yng Nghymru a'r Alban, ar hyn o bryd ac yn y dyfodol."
Meddai Sara Khalil, Arweinydd Rhaglen TEC Cymru:
"Yn dilyn yr Adroddiad Darganfod cychwynnol am wasanaethau teleofal yng Nghymru, un o'r themâu allweddol yr oedd angen i TEC Cymru fynd i'r afael ag ef oedd trosglwyddo offer telathrebu o analog i ddigidol, a fydd yn effeithio’n fawr ar wasanaethau teleofal a'i ddefnyddwyr.
"Un o ddatganiadau cenhadaeth allweddol y Rhaglen Teleofal yw 'cael gwasanaeth teleofal cwbl ddigidol cyn y dyddiad cau yn 2025'. Felly, mae'n hanfodol ein bod yn darparu'r cyngor, y cymorth, yr adnoddau a'r amser cywir sydd ei angen i gyflawni'r genhadaeth hon.
"Bydd y cydweithio hwn â Swyddfa Ddigidol Llywodraeth Leol yr Alban, sydd eisoes â llyfr chwarae ar waith, yn ein galluogi i gyflymu ein dull wrth ddysgu ac adeiladu ar y gwaith rhagorol hyd yma. Rhaid mai gwneud y mwyaf o’n hadnoddau ar y cyd yw’r ffordd orau o sicrhau'r canlyniadau gorau posibl i ddefnyddwyr a phartneriaid cyflenwi."
Meddai David Brown, Rheolwr Cysylltiadau Busnes, Swyddfa Ddigidol Llywodraeth Leol yr Alban:
"Bydd cydweithio agosach â chydweithwyr o TEC Cymru yn cyflymu’r Rhaglen Teleofal Digidol. "Mae'n cyflwyno ffynhonnell newydd o arloesedd, arfer gorau ac arweiniad y gallwn ddysgu ohonynt, ac mae'n creu'r cyfle i weithio mewn partneriaeth i fynd i'r afael â heriau cyffredin a datgloi datblygiadau arloesol newydd.
"Gall y gyrchfan derfynol fod yn weddol debyg, ond bydd y daith yno yn fwy llyfn ac yn gyflymach o ganlyniad i'r bartneriaeth hon."
Bydd TEC Cymru a Swyddfa Ddigidol Llywodraeth Leol yr Alban hefyd yn archwilio nifer o gydweithrediadau pellach a allai gynnwys:
- Sesiynau cyfnewid gwybodaeth
- Rhannu gwybodaeth a gweithredu ar y cyd ynghylch materion mudo
- Prosiectau sy'n archwilio datrys heriau wrth ddarparu teleofal digidol
- Prosiectau sy'n ceisio cyflwyno datblygiadau arloesol newydd wedi'u galluogi gan deleofaldigidol
I gael rhagor o wybodaeth am Raglen Teleofal TEC Cymru, gellir lawrlwytho Adroddiad Darganfod Teleofal yma.