Mae cyfres gweminar Yr Adnodd Data Cenedlaethol (NDR) yn parhau wrth i ni archwilio'r strategaeth a'r weledigaeth ar gyfer data gofal cymdeithasol yng Nghymru ac arddangos enghreifftiau lle mae data cydgysylltiedig eisoes yn cael ei ddefnyddio i wneud gwahaniaeth go iawn.
Ymunwch â ni ddydd Mercher 24 Chwefror 2021 wrth i ni fynd ar wibdaith o amgylch y strategaeth a'r weledigaeth ar gyfer data gofal cymdeithasol a'r Rhaglen Adnodd Data Cenedlaethol yng Nghymru, gan gynnwys:
- sut mae data gofal cymdeithasol yn cyd-fynd â phrosiect NDR
- y weledigaeth ar gyfer y Cofnod Iechyd a Gofal Digidol
- datblygiadau mewn dadansoddeg gofal cymdeithasol
- Strategaeth Ddigidol Llywodraeth Cymru
- ystod o astudiaethau achos yn dangos pŵer data gofal cymdeithasol cydgysylltiedig
Bydd y sesiwn yn rhyngweithiol, gan gynnwys pleidleisio byw a sesiwn panel Holi ac Ateb, wrth i ni rannu dysgu, archwilio heriau a nodi cyfleoedd trwy drafodaeth agored, ddiddorol.
Dyma gyfle i chi ddysgu am ein gweledigaeth, sut y gall pŵer cyfun yr NDR a data Gofal Cymdeithasol gael effaith wirioneddol ar fywydau ledled Cymru a sut y gallwch chi gymryd rhan.
Bydd ystod o siaradwyr yn ymuno â ni gan gynnwys Sue Evans, Prif Weithredwr Gofal Cymdeithasol Cymru ac Albert Heaney, Dirprwy Gyfarwyddwr Cyffredinol Llywodraeth Cymru. Cyn bo hir, byddwn yn datgelu'r rhestr lawn o siaradwyr o sefydliadau yng Nghymru a thu hwnt.
Noder:
- Gallwch gysylltu â ni gan ddefnyddio’r opsiwn ‘Cysylltu â Threfnydd y Digwyddiad’ isod.
- Rydym yn bwriadu cynnig cynnwys y digwyddiad yn ddwyieithog. Nodwch os ydych yn dymuno gwasanaeth cyfieithu Cymraeg ar y diwrnod trwy gysylltu â ni pan fyddwch chi'n cofrestru.
- Rhowch wybod i ni am unrhyw ofynion hygyrchedd ychwanegol cyn y digwyddiad fel y gallwn wneud ein gorau i ddarparu ar eich cyfer chi.