Mae Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru wedi bod yn cynnal gwerthusiad technegol ar openEHR er mwyn profi ei hyfywedd fel storfa ddata clinigol strwythuredig. Bydd y dechnoleg yn cael ei chyflwyno cyn bo hir er mwyn cefnogi prosiectau cenedlaethol megis Cyflymu Canser a chynnig cofnod meddyginiaethau a rennir ar gyfer GIG Cymru.
Beth yw openEHR?
Mae openEHR (sy’n cael ei ynganu'r un peth ag “open-air”) yn cynnig manyleb ar gyfer ymagwedd niwtral o ran gwerthwyr i agor modelau a meddalwedd clinigol ar sail safonau. Yn fwy na hyn, gallwn adeiladu cofnodion cleifion a rhaglenni digidol. A chan mai manyleb yw hi, mae adnoddau a storfeydd ar sail openEHR ar gael gan sawl gwerthwr ond rhywbeth sy’n bwysig i’w gofio yw eu bod oll yn addo gallu gweithio’n dda gyda chynnyrch eraill. Mae hyn yn golygu bod modd dod o hyd i ddata yn un Storfa Ddata Clinigol (CDR) openEHR mewn sawl lle, gan gefnogi ymagweddau cyfunol sefydliadau rhanddeiliaid
Mae’r fanyleb yn disgrifio dwy elfen bwysig;
- y modelau clinigol
- a’r rheolau sy’n eu llywodraethu.
Roedd ymagweddau traddodiadol o ran cadw cofnodion digidol yn uno’r ddwy elfen hyn, a gall hyn beri problemau pan fydd angen newid pethau sy’n effeithio ar sgema’r gronfa ddata. Er y cytunir yn gyffredinol y dylid osgoi uno’n agos y defnydd o’r haen barhaus, mae openEHR yn mynd gam ymhellach drwy rannu’r model cyfeirio a therminolegau’r modelau clinigol (sy’n cael eu galw’n archdeipiau).
Y Model Archdeip
Mae archdeipiau’n diffinio’r cynnwys clinigol posibl, gan gynrychioli model sy’n deillio o ymarfer clinigol gwirioneddol. Mae gan archdeipiau ffin llywodraethu, sydd yn ei hanfod yn cynrychioli cadarnhad clinigol er mwyn cefnogi’r syniad o safon data clinigol. Gellid defnyddio un neu fwy o archdeipiau mewn templed sy’n cynrychioli achos defnydd clinigol penodol.
Gallai enghraifft syml fod yn ddatblygiad ap Mynegai Màs y Corff (BMI). Er mwyn cyflawni hyn, mae angen tri phrif archdeip er mwyn cyfleu taldra, pwysau a’r BMI ei hun. Y fantais o ran defnyddio’r archdeipiau safonol hyn yw bod modd hefyd eu rhoi mewn templedi eraill sy’n gofyn am yr un data clinigol. A phan fydd y data hwnnw’n cael ei storio mewn ffordd gyffredin, gellid ei herio a’i ail-ddefnyddio, sy’n lleihau’r baich o ran gorfod cofnodi data fwy nag unwaith.
Mae’r modelau hyn ar gael yn agored, ac mae tystiolaeth yn dangos bod modd eu hail-ddefnyddio’n gyson iawn gydag achosion defnydd GIG Cymru. Amcangyfrifir bod oddeutu 8.5 blwyddyn-unigolyn o ymdrech wedi cyfrannu at yr adnoddau a gyhoeddwyd hyd yma (1).
Roedd gwaith gyda grwpiau cenedlaethol megis Rhwydwaith Cardiaidd Cymru yn arddangos effeithiolrwydd creu adnoddau i gefnogi datblygiad, cyhoeddiad ac adolygiad modelau openEHR gan ddefnyddio’r Rheolwr Gwybodaeth Clinigol (CKM) (2). Fodd bynnag, mae angen i glinigwyr neu wybodegwyr sy’n brofiadol o ran llwybrau gofal clinigol gefnogi’r gwaith o greu archdeipiau newydd, ac mae hon yn her i’r dyfodol.
Ailddefnyddio data
Nodwedd allweddol unrhyw storfa ddata clinigol yw ei gallu i hwyluso’r posibilrwydd o ailddefnyddio oherwydd gofynion clinigol ychwanegol ac at ddibenion archwilio a chofnodi. Mae’r Iaith Ymholi Archdeipiau (AQL) yn bodoli i gefnogi hyn. Mae AQL yn ffordd o gyflwyno ymholiadau ar CDR ar gyfer cofnodion unigolion neu sawl cofnod ar lefel claf neu archdeip, gan gynnal tarddiad data ac allforio ar gyfer dadansoddiad mwy manwl pan fo angen.
Cynhelir cydlyniad semanteg drwy’r model cyfeirio gwybodaeth ddiffiniedig a ddisgrifiwyd uchod, gyda data strwythuredig ar wahân i ddefnydd technoleg cronfa ddata cyffredinol y mae openEHR yn seiliedig arno. Gallwch ddefnyddio openEHR gydag amrywiaeth o gronfeydd data o SQL a Postgres i Oracle, a bydd MongoDB ac AQL yn gweithio hefyd. Mantais ychwanegol yw bod modd defnyddio AQL gyda’r APIau RESTful safonol er mwyn caniatáu i gyfansoddiadau strwythuredig neu ymholiadau archdeipiau gael eu datrys mewn fformatau cyffredin megis JSON ac XML gan ddatblygwyr a dadansoddwyr.
A yw’n cystadlu gyda HL7 FHIR?
Na, ond mae hwn yn gamsyniad cyffredin gan fod y ddwy fanyleb yn eithaf tebyg. Ond y ffordd orau i ystyried y gwahaniaethau yw bod FHIR yn cynrychioli ymagwedd ar sail safonau o ran anfon negeseuon (sy’n cael ei alw’n rhyngweithredu technegol yn gyffredinol) tra bod openEHR yn cefnogi parhad.
Gall elfennau amrywiol o fewn model cyfeirio openEHR uno a galluogi rhyngweithredu semanteg ar gyfer rhaglenni clinigol gan fod ganddo ei gyfres ei hun o APIau. Fodd bynnag, cydnabyddir mai HL7 FHIR yw’r syntacs negeseuon newydd, a’r safon o ran sut all sefydliadau a systemau iechyd gyfathrebu. Er mwyn gwneud hyn yn effeithiol, mae FHIR yn cynrychioli cyfres o adnoddau cyffredinol sy’n gweithredu fel amlen ar gyfer amrywiaeth o eitemau data clinigol. Ar y llaw arall, mae openEHR yn cynrychioli’r canfyddiad manwl o ddata hygyrch a chyson.
Beth am anfon archdeipiau openEHR rhwng systemau?
Mae’n gymhleth. Mae archdeipiau a thempledi’n cynrychioli achos defnydd clinigol penodol ac mae’n bosib y bydd archdeip yn cael ei gynrychioli mewn sawl math o dempled gwahanol gyda graddfeydd cyflawnrwydd amrywiol.
Os ydym yn ystyried cofnodi Pwysau’r Gwaed, mae gwahaniaeth amlwg rhwng gofynion data ym maes gofal sylfaenol o’i gymharu â gofynion ward gofal dwys. Mae’r arsylwad systolig / diastolig elfennol yn briodol ar gyfer meddyg teulu, ac felly dyma’r ddwy brif eitem data fydd yn cael eu cyfleu ar gyfer y senario hwn. Mae’n bosib y bydd nyrs ar ward hefyd yn awyddus i dderbyn ‘maint y cyff’ er mwyn cael darlleniadau pwysau’r gwaed yn gynt ar ward brysur, ac mae hyn yn cyflwyno eitem ddata ychwanegol. Ar y llaw arall, mae’n bosib bod ward Uned Gofal Ddwys yn derbyn data’n uniongyrchol gan beiriant sy’n casglu pwysau cymedrig rhwydwelïol, ac er mwyn gwirio cyd-destun semanteg, mae’n bosib y bydd y fformiwla gyfatebol a ddefnyddir ar gyfer cyfrifo, a rhifau unigryw dyfeisiau yn cael eu cofnodi hefyd. Mae pob enghraifft yn ddilys, ac maent hefyd oll yn cydymffurfio ag un model clinigol.
Felly mae “cyflawnrwydd” yn fympwyol yn hyn o beth, gan nad oes angen adeiladwyr system i ddefnyddio 100% o’r cynnwys all gael ei gasglu gan ddefnyddio archdeip. Nod yr ymagwedd facsimal o ran modelu yw cynrychioli persbectif holistaidd o eitem ddata penodol, yn ei hanfod, yr hyn sy’n ddichonadwy i’w gasglu. Ond nid yw’n golygu bod rhaid gwneud hyn ym mhob senario.
Ond, pe byddwn am hwyluso rhyngweithrediad gydag ymagwedd facsimal, byddai angen i ni sicrhau bod un ai un model FHIR yn cynnwys popeth ar gael, yr oedd pob parti yn ei dderbyn a’i ddeall, neu sawl APIau oedd yn cynrychioli pob achos defnydd. Byddai angen adnoddau cynnal a chadw a datblygu o bosib pryd bynnag y byddai’r model yn newid. Wedi dweud hyn, mae’n ddibwys pan mae’n bosib na fydd angen anfon eitemau data rhwng pob system yn y lle cyntaf.
Nid yw’r gofynion o ran anfon negeseuon rhwng systemau a pharhad cyffredinol data clinigol yr un peth pob tro, ond mae’r ddwy dechnoleg yn ategu ei gilydd. Rydym yn ceisio defnyddio’r ymagwedd “blwch adnoddau” hwn; gan ddefnyddio’r safon FHIR i sicrhau bod gwerthwyr a sefydliadau yn siarad yr un iaith, ac yn gallu cynrychioli’r cynnwys clinigol mewn amryw o ffyrdd hyblyg. Ar yr un pryd, mae’r data’n parhau yn unol ag un model cytunedig, sef prif swyddogaeth openEHR.
Mae mabwysiadu openEHR yn galluogi GIG Cymru i ddechrau’r broses o bontio o’r ymagwedd seilo yn seiliedig ar ddogfennau, i’r platfform agored newydd (3). Gallwn ddechrau gweithio gan ganolbwyntio ar y dyfodol, nad yw’n awgrymu cymhlethdod. Felly, rydym yn bwriadu cyflawni achos defnydd penodol cyntaf: y storfa driniaeth er mwyn cefnogi gofynion rheoli canser.
Mae’r diagram uchod yn disgrifio sut caiff data ei storio o’r rhaglenni sy’n ei gasglu, ei olygu a’i arddangos. Mae’r haen ddata’n helpu i gyflawni cynnwys sy’n safonol o ran fformat, cyfundrefn enwau, terminoleg a diffiniad. Yn ei dro, mae hyn yn ei alluogi i weithio gyda systemau eraill, fel y’i nodwyd gan berchennog y data. Ni fydd rheolau storio data’n newid llawer, os o gwbl, gan sicrhau cysondeb ac yn y pendraw, yn cynyddu gweithrediad dros amser.
Mae’r haen defnyddio’n gofyn am ddyluniad llif gwaith hollol systemig. Mae hyn yn golygu deall y cyd-destun, neu beth sy’n dod cyn ac ar ôl, yn y daith ofal. Mae’n seiliedig ar ddigwyddiadau gofal neu ymyrraeth (e.e. llifoedd gwaith clinigol neu rybuddion iechyd cwsmeriaid) yn hytrach na monitro dynol parhaus. Mae’r llif gwaith hwn yn dibynnu’n helaeth ar y strwythurau data safonol a chyffredinol, wrth i’r modelau sylfaenol a ddarperir gan archdeipiau gynnig gwaelodlin i adeiladu arni.
Mae’r golwg ongl-llydan o ran mabwysiadu’r Platfform Agored yn bwysig, ac mae openEHR yn rhan bwysig o hyn. Gall falansu APIau safonol a gweithio gydag elfennau platfform eraill (e.e. rhaglenni’n seiliedig ar HL7 FHIR) er mwyn creu ffasâd rhyngweithredu dros haen ddata strwythuredig cyson. Mae egwyddorion sy’n ategu platfformau agored (megis lleihau cloi gwerthwyr i mewn, niwtralrwydd technolegol a rhyngwynebau agored sy’n cefnogi mynediad at ddata) yn hanfodol er mwyn gwireddu potensial yr Adnodd Data Cenedlaethol a data iechyd ar gyfer Dinasyddion Cymru.
Crynodeb
Ar ôl rhoi trosolwg o openEHR, dim ond megis dechrau ydyn ni o ran sut all gefnogi achosion defnydd presennol a rhai newydd. Dros y ddwy flynedd nesaf byddwn yn gweithio gyda chydweithwyr yn yr Adnodd Data Cenedlaethol i ehangu’r gofynion hyn, a gweithio gyda Rhaglen Digideiddio Gofal Llygaid Cymru Gyfan wrth iddynt bontio o Open Eyes i openEHR. A byddwn yn sicr yn adborth ar ein gweithgareddau mewn digwyddiadau DHW wrth i ni gyrraedd pob carreg filltir.
Oes gennych chi ddiddordeb mewn dysgu mwy? Rydym yn cynnal dau ddigwyddiad OpenEHR ym mis Chwefror:
- openEHR i GIG Cymru, 16eg Chwefror - cyfle i’r rhai sy’n bresennol ddysgu am openEHR a chynyddu eu dealltwriaeth o’r dechnoleg hon sy’n cael ei defnyddio ar draws amrywiaeth o sefydliadau yn y DU.
- openEHR: trosolwg technegol, 23ain Chwefror - cyfle i’r rhai sy’n bresennol ddysgu am y dechnoleg a chynyddu eu dealltwriaeth, gan ganolbwyntio ar yr agweddau technegol ar ei saernïaeth.
- H. Leslie, “State of the clinical modelling program and international CKM,” Atomica Informatics, 2019
- Rheolwr Gwybodaeth Clinigol
- Diffinio Platfform Agored, Apperta Foundation