Gyda chefnogaeth EIDC, mae Llywodraeth Cymru heddiw wedi cyhoeddi cystadleuaeth newydd ar gyfer datrysiadau digidol i helpu i frwydro yn erbyn Covid-19. Mae'r arian ar gael ar gyfer rhwng pump ac wyth o brosiectau i dreialu cynnyrch ac atebion yn gyflym.

man in lab at desk

Mae ceisiadau wedi cau am y gronfa hon.

Sut mae'r gystadleuaeth yn gweithio

Mae'r gystadleuaeth yn agored i unrhyw fusnes yn y DU sydd ag ateb digidol i ymladd Covid-19. Mae hwn yn beilot cyflym lle rydyn ni'n ceisio profi technoleg sy'n barod ar gyfer y farchnad o fewn amgylcheddau'r GIG, gyda'r potensial i gynyddu technoleg sy'n cael ei gweld yn drawsnewidiol.

Rhaid i bob ateb fynd i'r afael ag un o bedwar themâu:

  • Diagnosis o bell a brysbennu cleifion
  • Cael y gorau o gasglu a dadansoddi data
  • Olrhain, rheoli ac adrodd ar restr cyfarpar diogelu personol ysbytai (PPE)
  • Cymorth a thriniaeth o bell gan ddinasyddion.

Bydd yr atebion hyn yn cael eu beirniadu gan banel o arbenigwyr o Lywodraeth Cymru, GIG Cymru a NWIS.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 9am ddydd Llun 8 Mehefin. Bydd prosiectau llwyddiannus yn cael eu hysbysu erbyn 22 Mehefin 2020 a bydd disgwyl iddynt ddechrau ar 29 Mehefin. Bydd y cynlluniau peilot cyflym yn cael eu cynnal dros yr haf, gyda gwerthusiad ym mis Medi i adolygu'r potensial ar gyfer graddio ar draws Cymru.

Vaughan Gething, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol:

“Mae pandemig Covid-19 wedi tynnu sylw at angen brys am dechnoleg ddigidol newydd i’n helpu i reoli ac ymateb i’r feirws,"

“Gallai’r alwad hon gwneud gwahaniaeth enfawr, nid yn unig yn ein hymateb uniongyrchol i’r pandemig, ond yn ein gwasanaethau iechyd o ddydd i ddydd."

“Mae'n bwysig ein bod yn croesawu technolegau digidol ac yn defnyddio rhywfaint o'i botensial i wella gofal arferol,"

“Bydd yr alwad hon yn ein helpu i werthuso’r opsiynau gorau a’u gwerth tymor hir.”

Dywedodd Helen Northmore, Rheolwr Rhaglen Ecosystem Iechyd Digidol Cymru, sy'n gydweithrediad rhwng Hyb Gwyddorau Bywyd Cymru a Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru:

"Gall technoleg helpu i weddnewid y ffordd y mae GIG Cymru yn darparu gwasanaethau gofal iechyd. Mae'r gystadleuaeth hon yn gyfle perffaith i brofi a datblygu technolegau sy'n cynnig yr effaith fwyaf ac atebion gwerth gorau yn ystod coronafeirws a thu hwnt.

"Mae'r Ecosystem Iechyd Digidol yn falch iawn o gefnogi'r gystadleuaeth hon – bydd y cyllid hanfodol hwn gan Lywodraeth Cymru yn galluogi gwerthuso datblygiadau digidol posibl ar gyfer iechyd a darparu gofal yng Nghymru yn gyflym."

Dywedodd Cari-Anne Quinn, Prif Swyddog Gweithredol Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru:

"Mae’r gystadleuaeth yn cynnig cyfle i fusnesau ddangos sut y gallant gefnogi ymateb Cymru i Covid-19. Mae datblygu ffyrdd newydd o weithio yn hollbwysig, a gallai defnyddio technolegau newydd ac arloesi digidol arbed bywydau yn y pen draw. Os oes gennych chi gynnyrch neu ddatrysiad, cysylltwch heddiw!”