Mae PhysioNow, yr adnodd ar-lein sy’n darparu adnodd brysbennu hyblyg, o bell ar gyfer pob cyflwr cyhyrysgerbydol, wedi ymestyn ei gynllun peilot i sicrhau mynediad parhaus i gleifion. Bydd hyn yn parhau i leddfu’r pwysau ar y timau ym Myrddau Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg a Hywel Dda.
Fel rhan o Gronfa Datrysiadau Digidol COVID-19 Llywodraeth Cymru, cafodd Connect Health ei ddewis fel un o bum prosiect i dreialu’n gyflym ei adnodd PhysioNow ar-lein i helpu i gefnogi gwasanaeth GIG Cymru drwy gydol COVID-19 a thu hwnt. Mae PhysioNow yn cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd gan Fyrddau Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg (CTM) a Hywel Dda (HDd) ac mae’r adborth gan gleifion a chlinigwyr wedi bod yn gadarnhaol.
Gan ddefnyddio algorithmau sydd wedi cael eu datblygu’n glinigol, mae PhysioNow yn galluogi cleifion i gael mynediad o bell at ofal ar-lein 24/7.
Dywedodd un o gleifion y cynllun peilot:
“Roeddwn i wir yn meddwl ei fod yn ddefnyddiol a byddwn i’n sicr yn defnyddio’r gwasanaeth hwn eto. Roedd yn gyfleus iawn i mi. Gallwn ddefnyddio’r gwasanaeth hwn pan fyddaf i ffwrdd hefyd.”
Mae’r adnodd ar-lein yn symud defnyddwyr yn gyflym i’r llwybr priodol, gan alluogi’r gofal cywir i gael ei roi, ar yr adeg iawn, gan y person iawn, gan nodi achosion brys ac argyfyngau yn gyflym.
Dywedodd Zoe Brewster, Pennaeth Cynorthwyol Ffisiotherapi yn CTM:
“Rydyn ni’n falch iawn o gael ein dewis gan Lywodraeth Cymru i dreialu’r defnydd o PhysioNow yng Nghymru. Bydd yr adnodd ar-lein hwn yn dod â manteision enfawr i’n cleifion, a fydd yn cael cyngor ac asesiad cyflym a hawdd ei ddefnyddio o gysur eu cartrefi eu hunain.”
Yn ogystal â darparu gofal cyflymach i gleifion, mae’r adnodd ar-lein yn dod â manteision i’r economi iechyd ehangach wrth i gapasiti gael ei reoli’n well. Mae PhysioNow yn galluogi cleifion i hunanatgyfeirio a fydd wedyn yn lleihau nifer yr apwyntiadau meddyg teulu a gofal iechyd arall ac yn rhyddhau capasiti o fewn y system i reoli cyflyrau nad ydynt yn rhai cyhyrysgerbydol.
Dywedodd Zoe:
“Mae’n dod â manteision i’n tîm o ffisiotherapyddion, gan ddarparu gwybodaeth bwysig am gyflwr claf cyn iddynt hyd yn oed ddod i mewn i’r clinig a’n helpu i symleiddio ein gwasanaethau a thrin y cleifion hynny sydd fwyaf mewn angen.”
Dywedodd Gary Howe, Uwch Reolwr Trawsnewid Gwasanaeth Connect Health:
“Mae wedi bod yn wych i Connect Health weithio mewn partneriaeth â thimau ffisiotherapi cyhyrysgerbydol yng Nghwm Taf Morgannwg a Hywel Dda i ddarparu ein sgyrsfot PhysioNow 24/7. Mae wedi bod yn gyfle gwych i ddysgu gan y timau a gweld gwelliannau yn nhaith y claf drwy gynnwys PhysioNow mewn llwybrau lleol. Mae’r adborth gan gleifion o bob oed, yn y ddau Fwrdd Iechyd, wedi bod yn rhagorol o ran gwella hwylustod, y prawf ffrindiau a theulu, a pha mor hawdd yw ei ddefnyddio.”
Ar ôl lansio ar 21ain Awst, mae dros 340 o gleifion ar draws CTM a HDd wedi defnyddio’r gwasanaeth. Yn wreiddiol roedd y cynllun peilot i fod i bara 8 wythnos, ond gyda’r cynnydd yn nifer yr achosion Coronafeirws yng Nghymru, ynghyd â nifer o gyfyngiadau symud lleol, mae’r cynllun peilot wedi cael ei ymestyn i fis Rhagfyr. Bydd PhysioNow yn parhau i alluogi cleifion i reoli eu poen neu anaf gyda chymorth o bell, tra’n caniatáu i CTM a HDd flaenoriaethu a thrin y cleifion hynny nad oes modd eu trin o bell.
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn cael gwybod mwy am gynllun peilot PhysioNow, ewch i:
- Mynediad Uniongyrchol Cwm Taf Morgannwg at wasanaethau Ffisiotherapi, 24/7
- Cael Gafael ar Ffisiotherapi yn Sir Benfro