teccymru

Rydym wrth ein bod o gyhoeddi bod ein Harweinydd Ymchwil a Gwerthuso, Gemma Johns, ymhlith carfan Esiamplau Bevan eleni.

bevan commission logo

Mae’r Rhaglen Esiamplau Bevan flynyddol yn agored i unrhyw un sy’n gweithio yn GIG Cymru, Gofal Cymdeithasol Cymru, Llywodraeth Leol neu yn y Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol. Mae Esiamplau Bevan llwyddiannus yn staff iechyd a gofal o bob rhan o Gymru sy’n cael cymorth gan Gomisiwn Bevan i ddatblygu a rhoi eu syniadau arloesol eu hunain ar brawf am gyfnod o 12 mis.

Bob blwyddyn mae’r rhaglen yn canolbwyntio ar thema wahanol, a’r thema ar gyfer eleni yw: ‘Gwneud Pethau yn Wahanol er mwyn sicrhau Adferiad Gofalus, Cynaliadwy’.

Bydd prosiect Gemma, Pecyn TEC-Plus, yn defnyddio’r sylfaen dystiolaeth sydd eisoes ar gael yn TEC Cymru, ynghyd â thystiolaeth o’i phrosiect, i lunio cymorth clinigol ychwanegol a chanllawiau sy’n seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer defnyddio gofal iechyd digidol.

Mae llawfeddygon, clinigwyr sy’n gweithio yn y maes gwasanaethau profedigaeth, a chlinigwyr sy’n gweithio gyda chleifion ag anhwylderau bwyta, yn rhai o’r grwpiau y bydd Gemma yn gweithio gyda nhw.

Bydd y prosiect yn cael cymorth pellach gan Arweinydd Cynnwys Cleifion a’r Cyhoedd a Chynrychiolydd Grwpiau Pobl Ifanc TEC Cymru, yn ogystal â Choleg Brenhinol y Seiciatryddion Cymru. Bydd cyfranwyr eraill yn cynnwys Tîm Seiciatreg Ysbyty’r Maudsley yn Llundain a’r Athro Alka Ahuja MBE, Seiciatrydd Ymgynghorol Plant a’r Glasoed ac Arweinydd Clinigol Cenedlaethol TEC Cymru.

Dywedodd Gemma:

“Mae’r prosiect yn edrych y tu hwnt i bersbectif TEC ac o fewn persbectif gwaith ymchwil clinigol. Nid yw’n ymwneud â sut i ddefnyddio’r dechnoleg, ond sut i wneud y defnydd gorau ohoni.”

Rydym yn edrych ymlaen at weld cynnydd Gemma dros y 12 mis nesaf. Cadwch lygaid ar wefan TEC Cymru i gael y newyddion diweddaraf.