teccymru

O ganlyniad i gyflwyno Gwasanaeth Ymgynghori Fideo (YF) GIG Cymru mor gyflym, mae TEC Cymru ar y rhestr fer ar gyfer Gwobr Teleiechyd Gwobrau Busnes Iechyd 2021.

health business awards logo

Caiff Gwobrau Busnes Iechyd Cenedlaethol, a gefnogir gan y cylchgrawn Health Business, eu rhoi i sefydliadau a thimau sy’n dangos arloesedd a rhagoriaeth yn y GIG.

Mae’r 17 o gategorïau'n cynnwys cyfleusterau, technoleg, adnoddau dynol, gwaith rheoli ysbytai a thrafnidiaeth yn ogystal â’r Wobr Cyflawniad Rhagorol ym maes Gofal Iechyd.

Caiff y wobr Teleiechyd ei rhoi i gydnabod y sefydliad sy’n dangos y defnydd mwyaf arloesol o dechnoleg gwybodaeth a chyfathrebu i ddarparu gwasanaethau iechyd, i gynnig arbenigedd ac i roi gwybodaeth o bell.

Dywedodd Sara Khalil, Arweinydd Rhaglenni TEC Cymru y canlynol am y wobr:

“Mae TEC Cymru’n falch o fod ar y rhestr fer ar gyfer y wobr Teleiechyd.

“Dechreuodd ein taith o gyflwyno’r Gwasanaeth YF ym mis Mawrth 2020 ac ers hynny mae’r Gwasanaeth wedi tyfu ac wedi dod yn rhan o fusnes arferol. Ar gyfartaledd mae tua 3,000 o apwyntiadau fideo o bell yn cael eu cynnal yn y maes iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru yr wythnos. Ac mae 260,000 o ymgynghoriadau o bell wedi’u cynnal ers i ni ddechrau.

“Mae YF yn parhau o fudd amlwg i gleifion ac i weithwyr gofal iechyd proffesiynol ac mae’n un o dri maes rhaglen craidd TEC Cymru.

Caiff y gwobrau eu cyhoeddi ar 9 Rhagfyr 2021 a’u cyflwyno gan Dr Mark Porter MBE.