teccymru

Mae TEC Cymru, y rhaglen genedlaethol ar gyfer gofal a alluogir gan dechnoleg, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, wedi ennill Gwobr Teleiechyd yn seremoni Gwobrau Busnes Iechyd Cenedlaethol 2021.

health business awards logo

Wedi'u dyfarnu i gydnabod cyflymder y broses o gyflwyno Gwasanaeth Ymgynghori Fideo (YF) GIG Cymru, mae'r Gwobrau Busnes Iechyd yn cydnabod ac yn dathlu'r arloesedd a'r cyfraniadau gwerthfawr a wneir gan Ymddiriedolaethau'r GIG a'r unigolion y maent yn eu cyflogi.

Mae'r 17 categori gwobrwyo’n cynnwys rheoli cyfleusterau, technoleg, caffael a thrafnidiaeth yn ogystal â'r Wobr Cyflawniad Eithriadol mewn Gofal Iechyd.

Caiff y Wobr Teleiechyd ei rhoi i gydnabod y sefydliad neu raglen sy’n dangos y defnydd mwyaf arloesol o dechnoleg gwybodaeth a chyfathrebu i ddarparu gwasanaethau iechyd, arbenigedd a gwybodaeth dros bellter.

Derbyniodd TEC Cymru y wobr am gyflwyno YF y GIG - gwasanaeth a roddodd ffordd ddiogel i weithwyr gofal iechyd proffesiynol a chleifion gyfathrebu tra'n diogelu staff rheng flaen a lleihau unrhyw risg o drosglwyddiad pellach o fewn wythnosau i weithredu cyfyngiadau COVID-19.

Mae timau eraill sydd ar y rhestr fer ar gyfer y wobr yn cynnwys:

  • Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG Iechyd Cymunedol Caint - Ap Teleiechyd Cleifion
  • Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG Ysbytai Newcastle - Telefentora Llawdriniaeth Robotig
  • Cyngor Dinas Lerpwl / Medication Support Company - Rheoli Meddyginiaethau o Bell

Cefnogir y Gwobrau Busnes Iechyd Cenedlaethol gan y cylchgrawn Health Business a chyflwynwyd y gwobrau eleni gan Dr Mark Porter MBE. Cafodd Dr Porter ei wneud yn MBE am wasanaethau i ofal iechyd yn 2005, ac yn ddiweddar derbyniodd Wobr Healthwatch-UK am ei gyfraniad at ddealltwriaeth y cyhoedd o feddygaeth sy'n seiliedig ar dystiolaeth.

Dywedodd Sara Khalil, Arweinydd Rhaglen TEC Cymru, fod yr anrhydedd a'r gydnabyddiaeth hon yn newyddion gwych i'r tîm. Dywedodd:

"Pan ddaeth COVID i Gymru am y tro cyntaf, roedd gennym dîm bach iawn yn cynnal rhai cynlluniau peilot YF i ddeall y potensial. Pan ofynnwyd i ni ymgymryd â'r dasg o gyflwyno ymgynghoriadau fideo ar draws GIG Cymru, gwnaethom ei hystyried yn her ac yn gyfle i wneud gwahaniaeth gwirioneddol ar lawr gwlad.

"Hyd yn oed nawr, mae'n meddwl llawer i allu chwarae rhan yn helpu degau o filoedd o gleifion, y cyhoedd, clinigwyr a staff i gadw'n ddiogel drwy'r pandemig mewn ymdrech i gadw gwasanaethau i redeg."

Canmolodd y timau niferus sy'n chwarae eu rhan i wneud y math hwn o drawsnewidiad yn bosibl ar draws y GIG a dywedodd ei bod yn ymdrech wirioneddol gydweithredol. Aeth yn ei blaen i ddweud:

"Daeth yr amgylchiadau a yrrodd y gwasanaeth YF o anghenraid. Fodd bynnag, drwy ein gwerthusiadau, mae'n wych gweld awydd hirdymor am fideo fel rhan gynaliadwy o’n gwasanaethau. Mae'r adborth gan gleifion a chlinigwyr wedi bod yn gyson gadarnhaol, waeth beth fo'u lleoliad, oedran neu gefndir.

"Rydym yn falch iawn bod dros 270,000 o ymgynghoriadau wedi'u cynnal hyd yma, diolch i'n tîm TEC Cymru anhygoel, ein partneriaid a phob un Bwrdd Iechyd - diolch i’w hymdrechion di-baid nhw y mae hyn wedi bod yn bosibl."