Astudiaethau Portffolio TEC Cymru
Astudiaeth Gweithio o Gartref (GOG)
- Cychwynnwyd ar astudiaeth hon i ddadansoddi manteision ac anfanteision GOG yn y GIG a gofal cymdeithasol.
- Datblygodd argymhellion Cymreig ar gyfer weithlu deinamig yng Nghymru seiliedig ar weithdy rhithiol ‘gweithlu delfrydol’ (21 grŵp / 138 o bobl).
- Ymysg camau nesaf yr astudiaeth hon mae cyflwyniadau posib i gyfnodolion a lledaenu’r canfyddiadau i randdeiliaid a llunwyr polisi
Model TEC: Cytunedd Digidol
- Mae astudiaeth ar y gweill i ddylunio Model Cytunedd Digidol TEC Cymru newydd gan ddefnyddio dysgu peiriant (AI), i ragfynegi faint fydd yn defnyddio digidol - pryd y gall cytunedd clinigol/claf fod yn fwyaf addas i’w gilydd (a pham).
- Caiff Model TEC ei ddylunio ar y cyd â Phrifysgol Caerdydd fel rhan o Brosiect gan fyfyriwr PhD yn Ysgol Fathemateg Prifysgol Caerdydd, a gychwynnodd weithio gyda TEC Cymru yn Hydref 21.
Astudiaeth Amser a Symud
- Mae’r tîm Y&G yn cychwyn astudiaeth arsylwadol amser a symud fydd yn dechrau ym Mawrth 22.
- Bydd hyn yn golygu dadansoddiad stopwats ar TEC (YG ac eraill), Wyneb yn Wyneb a Thros y Ffôn.
- Ar hyn o bryd yn nodi’r timau clinigol, arweinyddion a safleoedd i helpu gyda’r astudiaeth yng Nghymru gyfan
Patrwm Comisiwn Bevan (PCB)
- Edrychir i mewn i’r prosiect hwn ar hyn o bryd yn PCB dan yr enw TEC-Plus fydd yn cynyddu sgiliau digidol ac yn gwella gwneud penderfyniadau clinigol
- Gwneir hyn trwy ddatblygu a rhoi prawf ar becyn fydd yn cynnwys modiwlau hyfforddi, pecynnau cymorth benodol i arbenigeddau, canllawiau, cefnogaeth a mwy
- Y bwriad yw i TEC-Plus gyfrannu at leihau amseroedd aros a gwella gofal i gleifion
Astudiaeth Ysgolion TERMS
- Ers y pandemig, mae gwasanaethau anhwylderau bwyta a rheoli pwysau GIG Cymru wedi adrodd am gynnydd sylweddol mewn anghenion clinigol, adnoddau, cyfeirio a rhestrau aros.
- Bydd ymchwil arfaethedig TEC Cymru, wedi ei gysylltu â Q-Lab, yn edrych i weld sut y gallwn ddylunio a chyflwyno gwasanaeth monitro o bell mewn ysgolion uwchradd sydd yn amserol, effeithiol ac yn canoli ar y disgybl, er mwyn helpu i gefnogi a rheoli patrymau bwyta di-drefn.
- Cyfnodolyn y Tymor Rhifyn Rhagfyr
Astudiaeth Nyrsys ac Agweddau Digidol
- Mae TEC Cymru yn cynnal cyfres o grwpiau ffocws, arolygon a chyfweliadau gyda nyrsys ledled Cymru
- Byddwn yn cynnwys ystod eang o brofiadau a rolau nyrsio i drafod nyrsio digidol, gan ganfod heriau ac ofnau fydd yn help i adnabod atebion a bylchau posib
Diwrnod ym Mywyd...
- Yn ystod y pandemig, yr oedd llawer o ddata TEC Cymru yn adborth ôl-ddrychol gan gyfranogwyr oedd â phrofiad o wasanaeth seiliedig ar TEC. Fodd bynnag, unochrog yw data fel hyn fel arfer ac felly un ochr o’r stori a gawn.
- Nod y gyfres ‘diwrnod ym mywyd’ yw cael profiad ‘diwrnod’ cyfranogwyr TEC Cymru yn uniongyrchol, er mwyn rhoi darlun go-iawn o’u bywydau, a sut y gall gofal wedi ei alluogi gan dechnoleg gael effaith wirioneddol.
Astudiaeth Barn Gyhoeddus
-
Mae Tec Cymru wedi bod yn casglu barn y cyhoedd yng Nghymru.