-
Cynhadledd gydweithredu GIG Cymru gyfan yw'r digwyddiad hwn, sy'n dwyn ynghyd y cymunedau iechyd a gofal yng Nghymru.
Bydd cydweithwyr y GIG o bob rhan o Gymru, cwmnïau lleol a'r sector diwydiant ehangach yn ymuno i rannu arloesedd clinigol yn ymarferol i wella canlyniadau i gleifion.
Mae'r digwyddiad yn cynnwys cyflwyniadau ar-lein, gweithdai a rhwydweithio.
Nodau'r gynhadledd yw:
- Tynnu sylw ac arddangos y gwaith rhagorol sy'n cael ei wneud gan y cymunedau iechyd a gofal yng Nghymru.
- Gwella cydweithio rhwng y byrddau iechyd, diwydiant a chymunedau ymchwil.
- Codi proffil GIG Cymru ac arloesi clinigol ledled y DU.
- Cefnogi perthnasoedd gwaith agosach rhwng diwydiant, y GIG a grwpiau ymchwil a galluoedd treialon clinigol.