Mae cwrs ar-lein ar gyfer ymarferwyr rheoli cydnerthedd trawma meddygol (MedTRiM) yn lansio yng Nghymru er mwyn rhoi rhagor o gymorth i feddygon a nyrsys y GIG yng nghanol y pandemig Coronafeirws.

medtrim logo

Cynllun ar y cyd rhwng DNA Definitive, Addysg a Gwella Iechyd Cymru (HEIW) a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro. Mae’r cwrs ar-lein yn adnodd rhagweithiol a gwybyddol sy’n cael ei gyflwyno gan gydweithwyr er mwyn cefnogi meddygon a nyrsys y GIG sy’n dod i gysylltiad â thrawma. Wedi ei addasu gan y Dr Mark Stacey ac Andy McCann, mae’r cwrs ar-lein yn seiliedig ar hyfforddiant cydnerthedd trawma sy’n cael ei ddefnyddio gan y lluoedd arfog.

Dywedodd Andy McCann, Cyd-gyfarwyddwr DNA Definitive:

“Mae yna bryder cynyddol am les meddygon a nyrsys ymrwymedig y GIG o ganlyniad i’r pandemig coronafeirws. Mae adroddiadau’n awgrymu bod y defnydd o linell gymorth iechyd meddwl y BMA wedi cynyddu o 80 y cant dros y flwyddyn ddiwethaf.”

Dewiswyd MedTRiM fel un o bum prosiect i dreialu eu cynnyrch a’u gwasanaethau’n gyflym fel rhan o Gronfa Atebion Digidol COVID-19 Llywodraeth Cymru. Mae’r gronfa’n ceisio profi a gwerthuso llwyfannau digidol, apiau a thechnoleg newydd yn gyflym i benderfynu ar eu potensial a’u defnydd tymor hir o fewn Gig Cymru.

Dywedodd y Dr Mark Stacey, Anesthetydd Ymgynghorol CVUHB a Deon Cyswllt HEIW:

“Heb os, dyma un o’r rhaglenni mwyaf gwerthfawr rydw i wedi bod yn rhan ohoni yn ystod fy ngyrfa. Mae’r manteision posib o ddarparu cymorth i gydweithwyr yn sylweddol.”

Yn draddodiadol mae MedTRiM wedi cael ei gyflwyno ar fformat gweithdy. O ganlyniad i’r pandemig mae’r hyfforddiant wedi cael ei addasu a’i symud ar-lein er mwyn parhau i gefnogi ein meddygon a’n nyrsys yn GIG Cymru sy’n dod wyneb yn wyneb â thrawma.

Dywedodd Andy:

“Mae MedTRiM yn gallu helpu i greu atmosffer lle mae pobl yn sgwrsio, yn cefnogi ei gilydd ac yn cadw golwg ar hwyliau pobl. Fe ddylai hwn fod yn ychwanegiad gwerthfawr at yr adnoddau, pobl a rhaglenni eraill sydd eisoes ar waith.”

Dywedodd Frank Atherton, Prif Swyddog Meddygol Cymru:

“Rydyn ni’n awyddus i gefnogi datblygiad atebion a thechnoleg drwy’r Grynodeb Atebion Digidol a allai gael effaith wirioneddol ar ddinasyddion. Un ffordd y gallwn ni ddarparu cymorth hanfodol yw trwy gynnig ffordd i staff y GIG gael mynediad at hyfforddiant i’w helpu i reoli eu lles yn y gwaith. Wrth i ni symud tuag at ‘normalrwydd newydd’, mae hyfforddiant ar-lein MedTRiM yn golygu ein bod ni’n gallu cefnogi rhagor o’n cydweithwyr yn y GIG, a hynny mewn ffodd wahanol ond diogel.”

Ar gael fel llwyfan dysgu ar-lein, bydd angen i ddefnyddwyr gael eu gwahodd i ymrestru. Os oes gennych chi ddiddordeb yn yr adnodd hwn anfonwch e-bost i gael rhagor o fanylion.