Pecynnau Cymorth a Chanllawiau i Weithwyr Clinigol
CC
- Sut mae ail-osod fy nghyfrinair?
- Pam mae Safari ar fy iPad/iPhone yn mynd â mi i rywle arall?
- Pan fydda’i yn ceisio cyrchu gwefan Attend Anywhere wnaiff hi ddim llwytho
- ’A fydd cleifion yn cael eu symud o’r ystafell aros wedir amseroedd cau?
- All cleifion ddod i'r ystafell aros cyn yr amser agor?
- Sut mae cael help i ddefnyddio’r Gwasanaeth SMS i anfon gwahoddiadau at gleifion?
- Dyw fy CP, penset neu wegamera ddim yn gweithio: â phwy ddylwn i gysylltu am help?
- Lle mae defnyddiwr yn mynd i fewngofnodi i Attend Anywhere?
- Sut galla’i roi galwad ar gadw?
- Alla’i ddangos i’r claf beth sydd ar fy sgrin, er enghraifft, canlyniad pelydr-X neu sgan?
- Beth yw ystyr “New caller Alerts off” ac a ddylwn i ei droi ymlaen?
- Mae rhai ffonau Android yn dangos gwall i glaf pan ddaw i'r ystafell aros
- Wnaiff fy ffôn Huawei ddim cyrchu Attend Anywhere
- Oes angen gosod y feddalwedd ar ein cyfrifiaduron?
- Sut buasen ni’n tynnu staff y practis ymaith?
- Fydd ar staff syn gweithio mewn mwy nag un practis angen mewngofnodi ar wahân?
- Oes modd recordio’r ymgynghoriad fideo?
- Oes angen i'r practis gael cydsyniad y claf am apwyntiad fideo? <
- A fyddai modd defnyddio ymgynghoriad fideo i fwy nag un claf ar y tro?
- Allwn ni greu ystafelloedd aros ar wahân fesul gweithiwr clinigol?
- Oes yna uchafswm nifer o weithwyr clinigol all ddefnyddio Attend Anywhere ar yr un pryd?
- Fydd staff gweinyddol yn gallu cynnal ymgynghoriad fideo gyda chleifion?
1. Sut mae ail-osod fy nghyfrinair?
Dewiswch y ddolen “Forgot password?” ar sgrîn fewngofndi Attend Anywhere:
Ar y sgrin nesaf, gofynnir i chi roi’r cyfeiriad e-bost cysylltiedig â’ch cyfrif Attend Anywhere GIG. Byddwch wedyn yn derbyn neges yn cynnwys dolen unigryw i’r dudalen ail-osod cyfrinair.
2. Pam fod Safari ar fy iPad/iPhone yn mynd â mi i rywle arall?
Mae’n bwysig ar Safari i roi’r URL llawn gynnwys yr https:// Os na roddir hwn i mewn, bydd Safari yn chwilio yn hytrach na mynd i’r cyfeiriad hwnnw a bydd yn dangos cyrchfannau anghywir.
3. Pan fydda’i yn ceisio cyrchu gwefan Attend Anywhere wnaiff hi ddim llwytho
Mae Attend Anywhere yn gydnaws yn unig â phorwr Chrome neu Safari (Yn dibynnu ar y math o ddyfais). Gwnewch yn siŵr eich bod yn defnyddio’r naill neu’r llall o’r rhain a’ch bod yn defnyddio’r fersiwn fwyaf cyfoes. Gallwch lawrlwytho Chrome trwy ddefnyddio’r ddolen hon: www.google.com/chrome
4. A fydd cleifion yn cael eu symud o’r ystafell aros wedi’r amseroedd cau?
Na os daethoch i’r ystafell aros cyn yr amser cau, gallwch aros yno. Fodd bynnag, ni chaniateir i gleifion newydd ddod i’r ystafell aros wedi’r amser cau
5. All cleifion ddod i'r ystafell aros cyn yr amser agor?
Na, rydym yn awgrymu gosod yr amseroedd agor i’r ystafelloedd aros cyn union amser cychwyn yr apwyntiad cyntaf
6. Sut mae cael help i ddefnyddio’r Gwasanaeth SMS i anfon gwahoddiadau at gleifion?
Cysylltwch â Desg Gwasanaeth Gofal Sylfaenol NWIS, all eich helpu gydag ymholiadau am SMS: eu cyfeiriad e-bost yw: primarycare.servicedesk@Wales.nhs.uk
7. Dyw fy CP, penset neu wegamera ddim yn gweithio: â phwy ddylwn i gysylltu am help?
Os cafodd eich penset a’ch gwegamera eu darparu i chi gan Ofal Sylfaenol NWIS yna fe allant hwy roi help. Eu cyfeiriad e-bost yw: primarycare.servicedesk@Wales.nhs.uk
Os mai’r practis brynodd y cyfarpar, bydd angen i chi ddod i gysylltiad â’r gwneuthurwr.
8. Lle mae defnyddiwr yn mynd i fewngofnodi i Attend Anywhere?
Ar ôl i’r gweithiwr clinigol neu staff y dderbynfa greu ei gyfrif o’r gwahoddiad cychwynnol, mae modd mewngofnodi i’r llwyfan trwy fynd at wales.nhs.attendanywhere.com
9. Sut galla’i roi galwad ar gadw?
Y ffordd hawsaf i roi galwad ar gadw yw dewis “pause” ar waelod eich sgrin:
Rydym yn argymell oedi eich meicroffon a fideo (Rhaid gwneud y ddau ar wahân). Bydd y claf yn gweld y canlynol:
10. Allai ddangos i’r claf beth sydd ar fy sgrin, er enghraifft, canlyniad pelydr-X neu sgan?
Gallwch, dewiswch yr eicon “share screen” ar waelod y sgrin:
Gallwch wedyn benderfynu sut yr ydych am rannu eich sgrin:
Sylwch, os mai dim ond un sgrin sydd gennych, tra byddwch yn rhannu sgrin na fyddwch yn gallu gweld y claf ond fe fydd ef/hi yn gallu eich gweld chi a’r hyn yr ydych yn ei rannu
11. Beth yw ystyr “New caller Alerts off” ac a ddylwn i ei droi ymlaen?
Mae’r nodwedd hon yn caniatáu i chi osod larwm ar eich ffôn symudol bob tro y daw claf i’r ystafell aros. Oherwydd bod ystafelloedd aros wedi eu gosod i fyny fesul practis, os newidiwch hyn i “yes” yna byddwch yn dechrau derbyn larymau am yr HOLL gleifion sy’n dod i’r ystafell aros, gan na all y system wybod pa gleifion sydd ar eich rhestr chi a pha rai ar restr eich cydweithwyr.
12.Mae rhai ffonau Android yn dangos gwall i glaf pan ddaw i'r ystafell aros
Beth wna’i?
Tra bod gan y rhan fwyaf o ffonau Android Google Chrome, mae gan rai gwneuthurwyr, megis Samsung, wedi rhoi eu porwr rhyngrwyd hwy eu hunain ar y ffôn a’i wneud yn borwr diofyn.
I ddatrys hyn, mae dau ateb;
a. Yn ‘settings’ ar eich ffôn Android, ewch i apps a dod o hyd i Chrome. Yn y gosodiadau hyn fe fydd dewis i wneud hwn yn borwr diofyn.
b. Wrth i’r sgrin gwall ymddangos, copïwch y ddolen trwy glicio’r botwm. Agorwch Chrome a gludio’r cyfeiriad i’r bar cyfeiriad.
13. Wnaiff fy ffôn Huawei ddim cyrchu Attend Anywhere
(Gallai hyn fod i gleifion neu ddefnyddwyr cofrestredig y llwyfan).
Nid yw ffonau mwy newydd Huawei yn rhedeg ar Android ac ni chaniateir iddynt redeg Chrome na chyrchu unrhyw apps o’r siop Google Play ac ni fydd modd cyrchu Attend Anywhere. Os oes gennych ffôn hŷn Huawei sy’n dal i redeg ar Android, nid yw’r broblem hon yn effeithio arnoch chi.
14. Oes angen gosod y feddalwedd ar ein cyfrifiaduron?
Dim ond y porwyr gwe angenrheidiol.
15.’Sut buasen ni’n tynnu staff y practis ymaith?
Lle bynnag y caiff y nodwedd weinyddol ei dyrannu, gall fod ar unrhyw lefel, y cyfan neu rai.
16. Fydd ar staff syn gweithio mewn mwy nag un practis angen mewngofnodi ar wahân?
Gall defnyddwyr sy'n mewngofnodi gael eu neilltuo i fwy nag un ardal aros neu ystafell gyfarfod.
17.’Oes modd recordio’r ymgynghoriad fideo?
Na. Nid oes modd recordio’r ymgynghoriad fideo. Mae llwyfan Attend Anywhere yn ddiogel. Cynghorir gweithwyr clinigol gofal sylfaenol i gofnodi yn eu nodiadau, yn yr un modd ag arfer.
18.’Oes angen i'r practis gael cydsyniad y claf am apwyntiad fideo
Does dim angen cydsyniad i’r ymgynghoriad fideo gan ei fod yn ‘gydsyniad cyfranogi’.
19. A fyddai modd defnyddio ymgynghoriad fideo i fwy nag un claf ar y tro?
Byddai’n rhaid rhoi gwybod i gleifion mai apwyntiad unigol yw’r ymgynghoriad fideo, dim ond i’r person a archebwyd. Byddai'n rhaid rhoi gwybod i’r claf hefyd fod y ddolen yn ‘ddolen unigryw’ ac na ddylid ei rhannu ag eraill.
20. Allwn ni greu ystafelloedd aros ar wahân fesul gweithiwr clinigol?
Na, byddai hyn yn golygu cymaint o ystafelloedd aros â gweithwyr clinigol. Byddai hefyd yn golygu na fyddai modd eu gweinyddu ar y cyd. Un ystafell aros sydd i bob practis.
21. Oes yna uchafswm nifer o weithwyr clinigol all ddefnyddio Attend Anywhere ar yr un pryd?
Mae’r cyfan yn seiliedig ar haen y drwydded. Mae cyfyngiadau yn seiliedig ar danysgrifiad.
22. Fydd staff gweinyddol yn gallu cynnal ymgynghoriad fideo gyda chleifion?
Gall staff gweinyddol yrru negeseuon at gleifion ond ni chant ymuno â galwad. Cyfeiriwch at y rolau yn y ganolfan adnoddau.
Gofal Eilaidd
Sylwch fod posteri wedi eu creu i faint A2. Cofiwch ddewis y maint sydd arnoch ei eisiau, a gwirio’r gosodiad 'fit to page' wrth argraffu.
**Datblygwyd fel addasiad o’r canlynol: inffograffeg a deunydd gweledol
- Full Toolkit
- An Infographic - How Best to Use VC in Secondary Care: Suitability, Risk Factors & Red Flags
- Code of conduct for clinicians using the NHS Wales Video Consulting Service
- Legal and Ethical ** - PDF | Word (screen reader friendly)
- Secondary Care VC Process ** - PDF | Word (screen reader friendly)
- Suggested Scripting for Secondary Care
- VC Work Flow ** - PDF | Word (screen reader friendly)
- CWTCH Cymru - A Step-by-Step Toolkit for Getting Telepsychiatry Ready, Set & Go
Practis meddygon teulu
Sylwch fod posteri wedi eu creu i faint A2. Cofiwch ddewis y maint sydd arnoch ei eisiau, a gwirio’r gosodiad 'fit to page' wrth argraffu.
**Datblygwyd fel addasiad o’r canlynol: inffograffeg a deunydd gweledol
- Full Toolkit
- Clinician FAQs
- Code of conduct for clinicians using the NHS Wales Video Consulting Service
- How do Video Appointments work in Primary Care - PDF | Word (screen reader friendly)
- Legal and Ethical ** - Word (screen reader friendly)
- Primary Care VC Process ** - PDF | Word (screen reader friendly)
- Suggested Scripting for Primary Care Staff Using VC
- Technical Set Up
- VC Work Flow ** - PDF | Word (screen reader friendly)
- Guidance from GMC: Remote consultations
- Guidance from GMC: Remote prescribing high level principles
- Guidance from the MDU: Conducting remote consultations
- NHS England - Key principles for intimate clinical assessments undertaken remotely in response to COVID-19
- NHS Wales e-Library - A live search for COVID-19 and Video Consulting
- Video Consultations: How to Set Them Up Well, Fast?
- Guidance from RCGP: Guidance for Delivering Safe & Effective General Practice Using Video Consultation
Deintyddiaeth
Sylwch fod posteri wedi eu creu i faint A2. Cofiwch ddewis y maint sydd arnoch ei eisiau, a gwirio’r gosodiad 'fit to page' wrth argraffu.
**Datblygwyd fel addasiad o’r canlynol: inffograffeg a deunydd gweledol
Optometreg
Sylwch fod posteri wedi eu creu i faint A2. Cofiwch ddewis y maint sydd arnoch ei eisiau, a gwirio’r gosodiad 'fit to page' wrth argraffu.
**Datblygwyd fel addasiad o’r canlynol: inffograffeg a deunydd gweledol
Fferylliaeth Gymunedol
Sylwch fod posteri wedi eu creu i faint A2. Cofiwch ddewis y maint sydd arnoch ei eisiau, a gwirio’r gosodiad 'fit to page' wrth argraffu.
**Datblygwyd fel addasiad o’r canlynol: inffograffeg a deunydd gweledol
Gofal Cymunedol
Sylwch fod posteri wedi eu creu i faint A2. Cofiwch ddewis y maint sydd arnoch ei eisiau, a gwirio’r gosodiad 'fit to page' wrth argraffu.
**Datblygwyd fel addasiad o’r canlynol: inffograffeg a deunydd gweledol
- Full Toolkit
- An Infographic - How Best to Use VC in Community Care: Suitability, Risk Factors & Red Flags
- Code of conduct for clinicians using the NHS Wales Video Consulting Service
- Legal and Ethical ** - PDF | Word (screen reader friendly)
- Suggested Scripting for Community Care Staff Using VC
- VC Work Flow ** - PDF | Word (screen reader friendly)
- HCPC: Principles of Good Practice in VC
- RCOT: Digital Occupational Therapy
- CSP: Digital Tools
- BDA PSG: COVID-19 - Guidelines for Remote Dietetic Consultations
- RCSLT: Telehealth Guidance
- BPS Guidance to Support Psychologists with Remote Client Assessments During COVID-19
- Top Tips of Psychological Therapy
- Royal College of Nursing: Remote Consultations Guidance Under COVID-19 Restrictions
- Helpful Scotland examples for AHPS: Podiatry, Physio, OT, Dietetics, SLT and MDT