Bydd apwyntiadau ar-lein yn "trawsnewid" gofal iechyd yng Nghymru, yn ôl un o arweinwyr cynllun iechyd digidol. Mae dros 80,000 o apwyntiadau fideo wedi cael eu cynnal gan feddygon teulu a gwasanaethau eraill ers dechrau'r pandemig ym mis Mawrth. Nawr bydd Gwasanaeth Ymgynghori Fideo GIG Cymru yn cynnig technoleg o'r fath i optometryddion, fferyllwyr a deintyddion yng Nghymru.